Neidio i'r prif gynnwy

Cyfarfod Grwp Buddiannau Cleifion a'r Cyhoedd (PAPIG) - 18 Mawrth

Cynhaliwyd y Grŵp Buddiannau Cleifion a’r Cyhoedd (PAPIG) diweddaraf, sy’n parhau i gael ei gynnal yn rhithwir, ar 18 Mawrth ac roedd yn canolbwyntio ar gyfranogiad cleifion a phwysigrwydd llais y claf.

Dan gadeiryddiaeth Dr Clare Elliott, Uwch Wyddonydd ac Arweinydd Ymgysylltu â Chleifion, siaradwr cyntaf y cyfarfod oedd Ruth Lang, Uwch Reolwr Cyswllt, a roddodd y wybodaeth am y gwaith diweddar sydd wedi bod yn digwydd yn AWTTC.

Clywodd y mynychwyr hefyd gan amrywiaeth o siaradwyr a oedd yn cynnwys y claf, Tony Esmond, sydd â chlefyd prin alcaptonwria (AKU). Soniodd Tony am werth bod yn rhan o broses arfarnu Grŵp Strategaeth Meddyginiaethau Cymru Gyfan (AWMSG) a phwysigrwydd cael eich clywed fel claf.

Rhannodd Tony ei brofiad personol o’r broses arfarnu a sut yr oedd, fel claf, yn gallu cyfrannu iddi ac egluro sut brofiad oedd byw gydag AKU. Cafodd y cyffur yr oedd angen iddo ef, a chleifion AKU eraill, ei gael ei argymell gan AWMSG ar gyfer pobl sy’n byw gyda’r cyflwr hwn yng Nghymru

Yr aelod lleyg Cliff Jones, sy’n eistedd ar AWMSG fel aelod â phleidlais i gynrychioli safbwynt cleifion a’r cyhoedd, oedd y nesaf i gyfrannu. Siaradodd Mr Jones yn angerddol am ei rôl a phwysigrwydd cyfleu llais y claf i’r pwyllgor i sicrhau bod safbwyntiau a phrofiadau cleifion a gofalwyr yn cael eu cynrychioli.

Nesaf ar yr agenda oedd Dr Effi Mantzaourani, darllenydd yn yr ysgol fferylliaeth a’r gwyddorau fferyllol ym Mhrifysgol Caerdydd, a roddodd drosolwg o’i phrosiect yn edrych ar ddealltwriaeth cleifion o feddyginiaethau didrwydded.

Amlinellodd Gail Woodland, Uwch Fferyllydd yn AWTTC, Broses Meddyginiaethau Cymru’n Un a ddefnyddir i sicrhau mynediad teg at feddyginiaethau, nad ydynt ar gael fel arfer yng Nghymru, ar gyfer grwpiau bach o gleifion. Tynnodd Gail sylw at bwysigrwydd cynnwys cleifion unigol a/neu grwpiau cleifion yn y broses hon.

Un grŵp o’r fath sydd wedi bod yn gysylltiedig yw Parkinson’s UK ac eglurodd eu Rheolwr Polisi, Ymgyrchoedd a Chyfathrebu ar gyfer Cymru, Rachel Williams, sut y bu’n gweithio gydag AWTTC pan aseswyd meddyginiaeth o’r enw opicapon gan ddefnyddio proses Cymru’n Un. Drwy siarad â phobl a oedd yn defnyddio’r feddyginiaeth hon, roedd Rachel yn gallu casglu tystiolaeth i’w chyflwyno i bwyllgor gwneud penderfyniadau Cymru’n Un (OWMAG) gan roi trosolwg o brofiad cleifion ac ansawdd eu bywyd.

Dywedodd Rachel fod hwn yn brofiad cadarnhaol iawn i Parkinson’s UK a pha mor falch oedden nhw pan oedd opicapon ar gael i bobl sy’n byw yng Nghymru cyn Lloegr a’r Alban.

Symudodd y cyfarfod wedyn i lwybr mynediad arall at feddyginiaethau o’r enw Ceisiadau Cyllido Cleifion Unigol (IPFR). Rhoddodd Anne-Marie Matthews, Cydlynydd IPFR ar gyfer GIG Cymru, drosolwg cryno o’r broses IPFR a sut y gwneir penderfyniadau naill ai gan fyrddau iechyd unigol neu gan baneli IPFR Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru (WHSSC). Soniodd Anne-Marie am sut mae aelod lleyg yn aelod annatod o baneli o’r fath a’r anhawster i recriwtio pobl i wasanaethu fel aelodau lleyg. Yna bu Geoff Greaves, aelod lleyg IPFR ar banel Powys, yn rhannu ei farn a’i brofiadau am ei rôl.

Yna agorwyd y drafodaeth i bawb er mwyn cael syniadau ac awgrymiadau ar sut y gallai AWTTC estyn allan yn well i bobl i ddweud wrthynt am gyfleoedd i aelodau lleyg. Rhannwyd rhai syniadau da y gobeithiwn ddilyn i fyny arnynt yn y dyfodol agos.

Yn seiliedig ar y cyfarfod hwn, anfonwyd gwybodaeth ddilynol yn deillio o’r trafodaethau a hefyd manylion gwaith AWTTC lle byddem yn gwerthfawrogi mewnbwn cleifion a’r cyhoedd at bawb a fynychodd. Mae’r rhain hefyd ar gael ar ein tudalen Gwaith ar y Gweill ar wefan AWTTC.

Mae croeso i bawb ymuno â PAPIG a mynychu cyfarfodydd chwarterol, gan gynnwys cleifion a’u teuluoedd, gofalwyr, sefydliadau cleifion ac aelodau’r cyhoedd.

Os hoffech fynychu’r cyfarfodydd neu os hoffech i ni anfon e-bost atoch ynglŷn â’n hymgynghoriadau a chyfarfodydd yn y dyfodol, cysylltwch â ni ar 02921 826900.

Rydym yn cyfuno’r cyfarfod PAPIG nesaf â digwyddiad Diwrnod Arfer Gorau AWTTC a gynhelir ar 19 Gorffennaf. Bydd yn ymdrin â phwnc cynaladwyedd a bydd mwy o fanylion i ddilyn. Mae fideo o’n cyfarfod PAPIG mis Mawrth ar gael isod.