Neidio i'r prif gynnwy

Canolfan Cerdyn Melyn yn Addysgu Myfyrwyr

Ym mis Mawrth, dychwelodd YCC Cymru i Brifysgol Abertawe a Phrifysgol Caerdydd i ddysgu myfyrwyr Fferylliaeth ynghylch adweithiau niweidiol i gyffuriau a rhoi gwybod amdanynt drwy’r Cynllun Cerdyn Melyn.

Rhoddwyd darlith i fyfyrwyr, gyda gweithdy i ddilyn, lle cawsant y dasg o nodi’r meddyginiaethau a amheuir mewn nifer o astudiaethau achos a phenderfynu a fydden nhw’n rhoi gwybod am yr adwaith gan ddefnyddio Cerdyn Melyn.

Daeth dros 100 o fyfyrwyr i’r sesiynau ac roedd eu brwdfrydedd a’u cwestiynau deallus ynghylch adweithiau niweidiol i gyffuriau wedi creu argraff fawr ar dîm rheoli YCC Cymru. Cafwyd adborth cadarnhaol iawn gan y myfyrwyr, gyda nifer ohonynt yn nodi mai rhan fwyaf defnyddiol y sesiynau oedd rhoi cynnig ar gwblhau Cerdyn Melyn go iawn.

Mae tîm rheoli YCC Cymru yn edrych ymlaen at ddychwelyd y flwyddyn nesaf a chwrdd â'r garfan nesaf o fferyllwyr dan hyfforddiant.

Dilynwch AWTTC: