28 Ebrill 2025
Mae Blueteq yn system feddalwedd ar y we sy'n cael ei rhoi ar waith yng Nghymru i helpu i reoli Cyffuriau Cost Uchel (HCD), gan sicrhau eu bod yn cael eu rhagnodi yn unol â Chanllawiau Arfarnu Technoleg Iechyd a gyhoeddwyd gan Grŵp Strategaeth Meddyginiaethau Cymru Gyfan (AWMSG) a’r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE).
Bydd y system HCD yn galluogi byrddau iechyd i fonitro’r gwaith o ragnodi meddyginiaethau cost uchel a rheoli’r cymhlethdodau cynyddol sy’n gysylltiedig â’u defnyddio.
Bydd y system hefyd yn casglu data megis demograffeg cleifion, nodweddion clinigol, hanes triniaeth, adweithiau, a diogelwch mewn fformat safonol. Bydd y data hwn yn cael ei ddefnyddio i fonitro effeithiolrwydd triniaeth, asesu goddefgarwch, a chefnogi’r broses o ddatblygu’r gwasanaeth a chynllunio’r gweithlu.
Mae buddion allweddol system Blueteq yn cynnwys:
Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar ein tudalen we System Gyffuriau Cost Uchel Blueteq.