Neidio i'r prif gynnwy

AWTTC yn ymuno â'r Fenter Mynediad at Feddyginiaethau a Dyfeisiau Meddygol (MMD)

28 Ionawr 2025

Mae AWTTC yn falch iawn o fod yn rhan o fenter gydweithredol newydd, sef y Fenter Mynediad at Feddyginiaethau a Dyfeisiau Meddygol (MMD), sydd wedi'i sefydlu i wella gwaith y Cynllun Gwirfoddol ar gyfer Prisio a Mynediad at Feddyginiaethau wedi’u Brandio (VPAG).

Mae'r fenter hon yn dod â chyrff gwasanaeth iechyd ynghyd o bob rhan o'r pedair gwlad, i gyd wedi'u huno gan y nod o wella mynediad cleifion at gynhyrchion gofal iechyd diogel, sy’n glinigol effeithiol a chosteffeithiol.

Nod y Fenter Mynediad at Feddyginiaethau a Dyfeisiau Meddygol yw datblygu system ledled y DU ar gyfer technolegau gofal iechyd, gyda'r nod o rannu deallusrwydd ar draws y DU er mwyn hwyluso mynediad cyflymach i'r technolegau hyn i gleifion a lleihau gwahaniaethau direswm mewn mynediad.

Mae gweithgorau allweddol yr MMD yn canolbwyntio ar sganio’r gorwel am feddyginiaethau, sganio’r gorwel am ddyfeisiau meddygol, a rhannu gwybodaeth o fewn y DU ac yn rhyngwladol. Bydd y dull cydweithredol hwn yn creu fforwm i randdeiliaid archwilio ffyrdd o wella mynediad cleifion ar y cyd ar draws pob un o'r pedair gwlad.

Darllenwch fwy yma.

Dilynwch AWTTC: