Neidio i'r prif gynnwy

AWTTC yn y Digwyddiad Arddangos Genomeg 2026

30 Ebrill 2026

Mynychodd Canolfan Therapiwteg a Thocsicoleg Cymru Gyfan (AWTTC) Ddigwyddiad Arddangos Genomeg 2026, gan gynnal stondin yn yr ardal arddangos drwy gydol y dydd. Roedd y digwyddiad ar 23 Ebrill yn Stadiwm Dinas Caerdydd yn gyfle gwych i ymgysylltu â chynrychiolwyr, codi ymwybyddiaeth o waith parhaus AWTTC, a rhwydweithio â'r nifer o sefydliadau cleifion, clinigwyr, ymchwilwyr a rhanddeiliaid ehangach y GIG a oedd yn bresennol.

Cyflwynodd y Dadansoddwr Technoleg Iechyd, Charlotte Levey, boster yn y gynhadledd yn adolygu amserlenni gweithredu ar gyfer meddyginiaethau a argymhellwyd yng Nghymru yn 2025 yr oedd angen profion genomig arnynt.

Yn ogystal, cadeiriodd Dr Sophie Harding, Fferyllydd Ymgynghorol ar gyfer Ffarmacogenomeg, y sesiwn ddiddorol “Rhagnodi Personol: sut mae ffarmacogenomeg yn newid gofal yng Nghymru”.

Roedd yr arddangosfa’n cynnwys ystod eang o sesiynau yn tynnu sylw at ddatblygiadau mewn partneriaethau genomeg, ymchwil strategol, meddygaeth bersonol, gwasanaethau clefydau prin, genomeg iechyd y cyhoedd, ffarmacogenomeg, genomeg seiciatrig, biofarcwyr canser, therapïau uwch ac arloesi sy’n canolbwyntio ar y claf.

Dangosodd y digwyddiad yr ysbryd cydweithredol cryf ledled Cymru wrth hyrwyddo genomeg a meddygaeth fanwl, a rhoddodd brofiad addysgiadol, ysgogol ac ysbrydoledig i bawb a fynychodd.

Am ragor o wybodaeth am gyhoeddiadau ymchwil AWTTC, ewch i'r dudalen ymchwil.

Dilynwch AWTTC: