Neidio i'r prif gynnwy

AWTTC yn lansio tudalennau ymchwil newydd

Mae gwaith hanfodol aelodau ein tîm Ymchwil bellach ar gael ar ein gwefan, gan gyflwyno eu hastudiaethau o’r 16 mlynedd diwethaf.

Mae Grŵp Ymchwil AWTTC yn cynhyrchu ymchwil ac archwiliadau helaeth i ddefnydd diogel ac effeithiol o feddyginiaethau yng Nghymru gyda themâu ymchwil allweddol yn cynnwys mynediad at feddyginiaethau, optimeiddio meddyginiaethau a diogelwch meddyginiaethau.

Gyda mwy na 350 o gyhoeddiadau, mae’n cynnwys rhestr lawn o erthyglau o gyfnodolion, llythyrau, posteri cynadleddau a chrynodebau posteri cyhoeddedig, cyflwyniadau mewn cynadleddau, llyfrau, adrannau llyfrau a chymrodoriaethau sydd wedi’u cynhyrchu gan AWTTC ers 2006.

Fel tîm proffesiynol, maent yn dwyn ynghyd cyfoeth o dalent ac ystod eang o arbenigedd, gan gynnwys fferyllwyr, ffarmacolegwyr clinigol, meddygon meddygol, gwyddonwyr arbenigol, ymchwilwyr ôl-ddoethurol, awduron meddygol, economegwyr iechyd, dadansoddwyr data a thechnegwyr fferyllol.

Mae’r rhestr chwiliadwy yn darparu cyfle i gleifion, gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a diwydiant i ddysgu mwy am waith AWTTC ac mae hefyd yn gyfle i archwilio ymchwil sydd o ddiddordeb.

Mae rhestr o gyhoeddiadau ymchwil AWTTC i'w gweld ar-lein yma .

I ddod o hyd i gyhoeddiad gallwch chwilio yn ôl pwnc neu allweddair, neu gyfenw'r awdur. Bydd chwiliad manwl yn hidlo canlyniadau trwy:

  • math o gyhoeddiad (megis: llyfr, poster cynhadledd, erthygl mewn cyfnodolyn, Cymrodoriaeth)
  • blwyddyn cyhoeddi (neu yn achos Cymrodoriaethau, y dyddiad dechrau)

 

Dilynwch AWTTC: