Neidio i'r prif gynnwy

AWTTC yn ehangu ei gylch gwaith addysg gyda chydweithrediad newydd

Mae Canolfan Therapiwteg a Thocsicoleg Cymru Gyfan (AWTTC) wedi gweithio gydag Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) ar fodiwl newydd a gafodd ei lansio ym mis Mehefin.

Mae’r gwaith ar y cyd gydag AaGIC yn rhan o waith AWTTC i wella canlyniadau iechyd ar gyfer cleifion ac i roi cefnogaeth addysgol i ddarparwyr gofal iechyd. Cafodd y modiwl, y cyntaf o’i fath, ei lansio ar 11 Mehefin 2020 gan ganiatáu i weithwyr meddygol proffesiynol gael trosolwg o Ddangosyddion Presgripsiynu Cenedlaethol Grŵp Strategaeth Meddyginiaethau Cymru Gyfan ar gyfer 2020-2021.

"Rydym wrth ein bodd i fod wedi gweithio gydag AaGIC ar y modiwl newydd hwn ac rydym yn edrych ymlaen at archwilio llawer o rai eraill yn y dyfodol," meddai Claire Thomas, Uwch Fferyllydd, Canolfan Therapiwteg a Thocsicoleg Cymru Gyfan. 

Cymeradwywyd y Dangosyddion Presgripsiynu Cenedlaethol (NPIs), sydd erbyn hyn yn llunio meincnod ar gyfer presgripsiynu diogel ac wedi’i optimeiddio, am y tro cyntaf gan Grŵp Strategaeth Meddyginiaethau Cymru Gyfan yn 2003. Ers hynny mae’r NPIs wedi esblygu i gynnwys gofal eilaidd a gofal sylfaenol, gan ddefnyddio data o amrywiaeth o ffynonellau

Mae’r modiwl newydd yn amlinellu’r NPIs ar gyfer 2020-2021, sydd wedi’u diweddaru er mwyn canolbwyntio ar dri maes blaenoriaeth - poenleddfwyr, gwrthgeulyddion ar gyfer ffibriliad atrïaidd a stiwardiaeth gwrthficrobaidd; wedi’u cefnogi gan barthau diogelwch ac effeithlonrwydd.

Mae gwaith cydweithredol AWTTC gydag AaGIC yn darparu adnoddau hollbwysig ar bresgripsiynu diogel, o ansawdd a chost-effeithlon. I gael rhagor o wybodaeth ewch i: https://gpcpd.heiw.wales/clinical/national-prescribing-indicators/

 

Dilynwch AWTTC: