Gan adrodd ar waith timau Ceisiadau Cyllido Cleifion Unigol (IPFR) ar draws Byrddau Iechyd a Phwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru (WHSSC) ar gyfer cleifion yng Nghymru, lluniwyd yr adroddiad blynyddol diweddaraf gan Ganolfan Therapiwteg a Thocsicoleg Cymru Gyfan (AWTTC). Mewn blwyddyn heriol arall i'r GIG yng Nghymru mae paneli IPFR wedi parhau i ddarparu gwasanaeth prydlon ac effeithlon.
Rydym yn adrodd ar nifer y ceisiadau am driniaeth a’r math o geisiadau a ystyriwyd gan yr wyth panel IPFR yng Nghymru dros y flwyddyn. Mae’r prif ddata yn dangos y canlynol:
Mae'r adroddiad hefyd yn disgrifio gweithgareddau sy'n gysylltiedig â gwasanaeth IPFR. Cyfarfu’r grŵp Sicrhau Ansawdd IPFR bob chwarter i asesu IPFRs a ddewiswyd ar hap ar gyfer eu cydymffurfiaeth â Pholisi IPFR Cymru Gyfan. Yn 2021-2022, er gwaethaf gostyngiad mewn meini prawf a fodlonwyd rhwng mis Ionawr a mis Mawrth 2021, yn fwyaf tebygol o ganlyniad i ymchwydd pandemig y gaeaf, mae paneli IPFR yn parhau i sgorio'n uchel ym mhob maes a aseswyd. Cynhaliodd AWTTC Weithdy IPFR 2021 a gynhaliwyd ar-lein, ac mae cyflwyniadau a fideos ar gael ar wefan AWTTC. Mae'r adroddiad hefyd yn disgrifio gwaith Proses Meddyginiaethau Cymru'n Un fu'n ystyried un feddyginiaeth newydd ac 11 adolygiad.
Meddai'r Athro James Coulson, Cyfarwyddwr Clinigol, AWTTC: "Roedd y flwyddyn 2021–2022 yn parhau i fod yn her i'r GIG yng Nghymru. Gwnaeth y pandemig COVID-19 ychwanegu straen at ein gwasanaeth ond fe wnaeth hefyd herio sut roedden ni'n gweithredu yn y GIG ac arweiniodd at lawer o newidiadau i ymarfer er gwell. Gwnaeth y broses o symud i gyfarfodydd panel rhithwir barhau ar gyfer llawer o baneli Ceisiadau Cyllido Cleifion Unigol (IPFR) a bydd yn ddiddorol gweld a fydd paneli'n parhau i ddilyn yr arfer hon yn y dyfodol. Calonogol yw gweld, er gwaethaf y pwysau allanol a roddir ar aelodau'r panel, bod ansawdd yr IPFRs a ystyriwyd a'r broses sy’n sail iddynt yn parhau i wella."
Darllenwch yr Adroddiad Blynyddol IPFR 2021-2022 llawn
Darllenwch rifynnau blaenorol o Adroddiad Blynyddol IPFR