AWTTC yn cyflwyno gwaith yng Nghyfarfod Gwyddonol Blynyddol PRIMM

Cynhaliodd Presgripsiynu ac Ymchwil mewn Rheoli Meddyginiaethau (PRIMM) ei Gyfarfod Gwyddonol Blynyddol rhif 32 ym mis Mehefin 2021. Archwiliodd y cyfarfod y testun “Data Mawr…ai dyma Ddyfodol Optimeiddio Meddyginiaethau?” ac roedd y siaradwyr yn cynnwys yr Athro Syr Munir Pirmohamed yn sôn am “Ddata Mawr” a’r Athro Sinead Brophy yn trafod “Dysgu Peirianyddol”.  

Cyflwynodd Richard Boldero o AWTTC ddau boster i’r cyfarfod PRIMM. Gallwch weld ei ddau gyflwyniad yn y dolenni fideo isod.

Cyflwyniad 1 - Datblygu System Monitro Fformiwlâu Genedlaethol ar gyfer Cymru gyfan i ddangos defnydd cyflym a chynhwysfawr meddyginiaethau a ystyrir yn glinigol effeithiol ac yn gost effeithiol gan NICE ac AWMSG (Saesneg yn unig)

Cyflwyniad 2 - Datblygu Offer Dal Stoc Meddyginiaethau er mwyn gallu monitro lefelau stoc yn ddyddiol ar draws maes gofal eilaidd yng Nghymru yn ystod pandemig COVID-19 (Saesneg yn unig)

Mae PRIMM (DU ac Iwerddon) yn sefydliad amlddisgyblaethol annibynnol sydd wedi ymroi i astudio defnydd meddyginiaethau mewn cymdeithas. Mae’r grŵp yn canolbwyntio ar y pileri craidd sef ymchwil, addysg, canlyniadau, ymyriadau, defnydd a gweinyddu.

Nod PRIMM yw hyrwyddo ymchwil ym meysydd presgripsiynu a rheoli meddyginiaethau yn Ynysoedd Prydain:

  • gan roi ystyriaeth benodol i well gofal cleifion
  • drwy annog rhwydweithio rhwng gweithwyr proffesiynol sydd â diddordeb
  • drwy ddarparu fforwm i gyflwyno eu gwaith.