AWTTC ar restr fer Gwobrau Gofal Iechyd a Fferylliaeth Cymru 2026

28 Hydref 2026

Roedd Canolfan Therapiwteg a Thocsicoleg Cymru Gyfan (AWTTC) yn falch iawn o gael ei henwi yn un o'r rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol yng nghategori Gwobr Rhagoriaeth mewn Stiwardiaeth Wrthficrobaidd yng Ngwobrau Gofal Iechyd a Fferylliaeth Cymru 2026. Mae'r gwobrau'n cydnabod rhagoriaeth, arloesedd a chyfraniadau rhagorol i ofal iechyd a fferylliaeth ledled Cymru.

Roedd yr enwebiad yn tynnu sylw at fenter genedlaethol AWTTC i optimeiddio hyd cyrsiau gwrthfiotig ar gyfer heintiau'r llwybr anadlol heb gymhlethdodau. Gan gydweithio â gweithwyr gofal iechyd proffesiynol ledled Cymru, datblygodd AWTTC Ddangosydd Rhagnodi Cenedlaethol ar gyfer hyd cwrs gwrthfiotigau, dangosfwrdd rhyngweithiol i nodi amrywiad a thargedu ymyriadau lleol, a negeseuon cefnogi penderfyniadau rhagnodi i annog argymell hyd cwrs byrrach lle bo'n briodol yn glinigol. Mae'r gwaith hwn wedi cefnogi gwelliannau mewn rhagnodi gwrthfiotigau, gan helpu i leihau amlygiad diangen i wrthfiotigau i gleifion tra hefyd yn cyfrannu at arbedion mewn meddyginiaethau a manteision amgylcheddol.

Mynychodd cydweithwyr AWTTC y seremoni wobrwyo ar 22 Hydref 2026 yng Ngwesty'r Vale ym Mro Morgannwg, gan ymuno â gweithwyr gofal iechyd proffesiynol o bob cwr o Gymru i ddathlu cyflawniadau ar draws y sector.

Er na enillodd AWTTC y wobr, roedd bod ar y rhestr fer yn gydnabyddiaeth wych o gyfraniad y tîm at wella rhagnodi gwrthficrobaidd a chefnogi stiwardiaeth wrthficrobaidd ar draws GIG Cymru.