Mae Canolfan Therapiwteg a Thocicoleg Cymru Gyfan (AWTTC) a Thechnoleg Iechyd Cymru (HTW) wedi adnewyddu eu Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth, gan addo parhau i gefnogi gwaith ei gilydd.
Mae’r ddau sefydliad wedi gweithio ar y cyd ers 2020, gan rannu arbenigedd a mynediad at rwydweithiau o arbenigwyr.
Mae'r ddau sefydliad yn cynnal asesiad technoleg iechyd, ond cylch gwaith AWTTC yw arfarnu meddyginiaethau tra bod HTW yn canolbwyntio ar dechnolegau iechyd nad ydynt yn feddyginiaeth.
Trwy'r bartneriaeth maent wedi elwa ar adolygiadau cymheiriaid dwy ffordd a phrosesau sicrhau ansawdd i gefnogi eu swyddogaethau arfarnu.
Mae AWTTC yn darparu portffolio o wasanaethau ym maes therapiwteg a thocsicoleg, gan gynnwys arfarniad technoleg iechyd o feddyginiaethau.
Mae ei staff yn gweithio ar asesiadau technoleg iechyd; optimeiddio meddyginiaethau, diogelwch meddyginiaethau a gwenwyneg; a dadansoddi data rhagnodi.
Mae gan y sefydliad gynrychiolaeth ar nifer o grwpiau Technoleg Iechyd Cymru, gan gynnwys y Panel Arfarnu a'r Grŵp Cyfeirio Drws Ffrynt.
Dywedodd Karen Samuels, Pennaeth Arfarnu Technoleg Iechyd, Rheoli Meddyginiaethau a Chyfarwyddwr Rhaglen AWTTC: “Yn AWTTC ein hethos yw gweithio’n rhagweithiol i ddarparu ystod o wasanaethau sy’n cefnogi’r defnydd gorau o feddyginiaethau i helpu cleifion yng Nghymru.
“Mae’r adnewyddiad hwn o’r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth gan AWTTC a HTW yn estyniad o’n perthynas waith gadarn ac yn rhoi cyfle delfrydol i ni gydweithio sydd, heb os, yn gwella ansawdd i gleifion Cymru.”
Ychwanegodd Cyfarwyddwr HTW, Dr Susan Myles: “Mae ein partneriaeth ag AWTTC wedi dod â buddion cilyddol pwysig i bob sefydliad, gan gynnwys y cyfle i rannu gwybodaeth ac edrychwn ymlaen at adeiladu ar y berthynas hon.”