Neidio i'r prif gynnwy

Adroddiadau AWTTC ar Ddatganiadau Cyngor (SOAs) a gyhoeddwyd gan Grŵp Strategaeth Meddyginiaethau Cymru Gyfan (AWMSG)

Mae AWTTC wedi cynhyrchu adroddiadau yn edrych ar duedd a nifer yr SOAs a gyhoeddwyd dros gyfnod o bum mlynedd, ac yn archwilio’r effaith ar argaeledd meddyginiaethau yng Nghymru o’i gymharu â gwledydd eraill y DU. Daw’r adroddiadau i ben gydag argymhellion ar sut y gall proses asesu technoleg iechyd (HTA) gyfredol AWMSG gael ei diweddaru i fanteisio i’r eithaf ar fynediad at feddyginiaethau i gleifion yng Nghymru. Bydd y gwaith hwn nawr yn rhan o adolygiad ehangach o fynediad at feddyginiaethau.

Mae dau adroddiad wedi cael eu cynhyrchu:

  • Gwnaethom gwblhau adolygiad cynhwysfawr o SOAs AWMSG a gyhoeddwyd rhwng mis Ionawr 2015 a mis Medi 2020. Roedd yr adolygiad yn crynhoi’r nifer o SOAs a gyhoeddwyd a faint oedd yn dal i fod yn eu lle dros y cyfnod. Roedd manylder yr adroddiad yn rhoi mewnwelediad gwerthfawr i’r rhesymau pam nad oedd cwmnïau’n ymgysylltu â HTA AWMSG, a arweiniodd at ddiweddaru’r prosesau a’r argymhellion i’w hystyried yn yr adroddiadau canlynol.
  • Mewn adroddiad dilynol, fe wnaethom ymchwilio ychydig yn ddyfnach i anghysondebau rhwng gwasanaethau comisiynu NHS England, AWMSG a SMC a gwnaed pedwar argymhelliad:
    • Adolygu meini prawf gwahardd AWMSG er mwyn ystyried eithrio meddyginiaethau lle nad oes angen cyngor o fewn GIG Cymru;
    • Ymgysylltu â rhwydweithiau clinigol i archwilio a oes angen asesu meddyginiaethau sydd ar gael yng ngwledydd eraill y DU i’w defnyddio o fewn GIG Cymru;
    • Adolygu’r broses drwyddedu bediatrig wedi’i diweddaru er mwyn adolygu’r gofyniad ar gyfer arfarniad awtomatig;
    • Adolygu’r broses ar gyfer gwerthuso meddyginiaethau gwrthficrobaidd.

Mae’r argymhellion hyn yn cael eu hystyried ar hyn o bryd yn rhan o adolygiad ehangach o fynediad at feddyginiaethau sy’n cynnwys meysydd a amlygwyd gan y gwaith ar SOAs ond hefyd materion eraill sydd â’r potensial i gael effaith fawr ar yr agenda meddyginiaethau yng Nghymru.

Dilynwch AWTTC: