Neidio i'r prif gynnwy

Adroddiad Blynyddol y Gwasanaeth Gwybodaeth Cenedlaethol am Wenwynau, 2022-23.

Yn ddiweddar, cyhoeddodd y Gwasanaeth Gwybodaeth Cenedlaethol am Wenwynau (NPIS) ei adroddiad blynyddol, yn crynhoi gweithgareddau’r gwasanaeth ar gyfer y flwyddyn 2022-23. Mae’r NPIS yn cynnwys pedair uned wedi’u lleoli yn Birmingham, Caerdydd (Uned Gwenwynau Cenedlaethol Cymru), Caeredin, a Newcastle. Mae'n darparu cyngor gwenwyneg i weithwyr gofal iechyd proffesiynol y GIG, gan helpu i osgoi atgyfeiriadau diangen i’r ysbyty ar gyfer cleifion sydd â risg isel o niwed, yn ogystal â gwella ansawdd y driniaeth a byrhau arhosiadau ysbyty ar gyfer y rhai â gwenwyndra mwy difrifol.

Yn ystod 2022-23, derbyniodd a darparodd yr NPIS gyngor ar gyfer 38,700 o ymholiadau ffôn. Roedd y mwyafrif o'r rhain gan ddarparwyr cyngor y GIG, ymatebwyr sylfaenol ac ysbytai; o'r rhain roedd 2,140 o ymholiadau difrifol a mwy cymhleth yn cynnwys cael trafodaeth gyda gwenwynegydd ymgynghorol yr NPIS a chael cyngor ganddynt. Mae'r NPIS yn gyfrifol am TOXBASE (cronfa ddata tocsicoleg glinigol); roedd 812,380 o ymweliadau â TOXBASE drwy'r wefan, a 285,000 o ymweliadau gan 28,300 o ddefnyddwyr ap TOXBASE. Cynyddodd y defnydd o TOXBASE ar-lein ac ap TOXBASE tua 7.5% a 6.5%, yn y drefn honno, yn y flwyddyn 2022-23, o gymharu â 2021-22.

Mae'r NPIS yn cynnal ymarfer sicrhau ansawdd parhaus i ddangos bod y gwasanaethau a ddarperir yn cynnal lefel uchel o foddhad defnyddwyr. Cyfran yr ymatebwyr a sgoriodd wasanaethau fel rhai da iawn neu ragorol oedd 96.7% ar gyfer TOXBASE ar-lein, 96.6% ar gyfer gwasanaeth gwybodaeth am wenwynau dros y ffôn NPIS, a 96.3% ar gyfer Gwasanaeth Gwybodaeth Teratoleg y DU.

Yn ystod 2022-23, canolbwyntiodd yr NPIS ar nifer o faterion gwenwynegol o bryder penodol, gan gynnal gwyliadwriaeth ychwanegol, a oedd yn cynnwys:

  • Camddefnyddio Cyffuriau: Ymhlith y sylweddau a oedd yn aml yn destun ymholiadau ffôn neu TOXBASE roedd: cocên, canabis, MDMA (ecstasi), cetamin, diazepam ac ocsid nitrus (N2O).
  • Ocsid nitrus (N2O): Gelwir N2O hefyd yn 'nwy chwerthin', a dyma’r ail gyffur a gamddefnyddir fwyaf yn y DU, ac mae ganddo'r potensial i achosi myeloniwropathi sy'n gysylltiedig ag N2O. Yn ystod 2022-23 gwelodd yr NPIS gynnydd o 144% mewn ymholiadau yn ymwneud ag N2O. Mae'r cleifion hyn fel arfer yn dangos symptomau ysgafn neu gymedrol o paraesthesia a/neu hypoaesthesia. Mae codi ymwybyddiaeth ymhlith clinigwyr ynghylch sut i adnabod a thrin gwenwyndra N2O wedi bod yn ffocws allweddol i waith allgymorth meddygon ymgynghorol NPIS yn 2022-23.
  • Propranolol: Ers 2020 mae’r NPIS wedi monitro ymholiadau sy’n ymwneud â propranolol yn benodol mewn ymateb i adroddiad sy’n codi pryderon am y risg o niwed nad yw’n cael ei chydnabod yn ddigonol gyda’r cyffur hwn. Yn 2022-23 derbyniodd yr NPIS 459 o ymholiadau yn ymwneud â propranolol. Roedd gan gleifion oedran canolrifol o 33 oed ac roeddent yn fenywod yn bennaf (70%); nododd 95 o achosion symptomau cymedrol neu ddifrifol, gyda 12 achos wedi'u dogfennu fel rhai angheuol. Bydd yr NPIS yn parhau i fonitro'r cyffur hwn gyda golwg ar godi ymwybyddiaeth o ragnodi priodol ac amlygu'r risgiau i gleifion sy'n hunan-niweidio.
  • Carbon monocsid (CO): Mae'r NPIS yn parhau i fonitro ymholiadau ynghylch CO i ddeall gwenwyndra yn well a sut i atal gwenwyno yn y dyfodol. Roedd y cyfanswm o 455 o ymholiadau a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod hwn yn ymwneud ag oedolion yn bennaf (68%), ac roedd y ffynhonnell fwyaf cyffredin o CO a adroddwyd yn ymwneud â boeleri domestig diffygiol (25%). Fel arfer dim ond symptomau ysgafn neu gymedrol (72%) oedd gan y rhai a ddaeth i gysylltiad â CO, a symptomau’r prif system nerfol, fel pen tost, oedd y rhai mwyaf cyffredin. Mae’r NPIS yn parhau i fonitro ymholiadau ynghylch CO.

Yn 2023-24 bydd yr NPIS yn parhau i ddarparu cyngor 24 awr ar reoli achosion o wenwyno i weithwyr gofal iechyd proffesiynol y GIG, yn ogystal â datblygu meysydd ymchwil penodol i ddeall yn well effeithiau gwenwyno a sut i drin cleifion sydd wedi profi gwenwyno. Mae rhagor o wybodaeth am Adroddiad Blynyddol NPIS ar gyfer 2022-23 ar gael yma.

Dilynwch AWTTC: