Neidio i'r prif gynnwy

Adroddiad Blynyddol Canolfan Cerdyn Melyn Cymru 2025 - 2026

30 Medi 2026

Mae adroddiad blynyddol Canolfan Cerdyn Melyn Cymru (CCM Cymru) yn dangos bod nifer yr adroddiadau Cerdyn Melyn ar gyfer adweithiau niweidiol a amheuir i feddyginiaethau a gyflwynwyd yng Nghymru wedi cynyddu 7% yn 2025/26.

Cyflwynwyd cyfanswm o 4,018 o adroddiadau yn ystod y flwyddyn, o'i gymharu â 3,757 yn 2024/25 ac am y tro cyntaf derbyniodd CCM Cymru ddata adrodd yn ymwneud â dyfeisiau meddygol hefyd.

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro a gofnododd y cynnydd canrannol mwyaf, gyda'r adrodd yn codi 34%, tra gwelodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe gynnydd o 16%. Cynyddodd yr adrodd hefyd ar draws byrddau iechyd Betsi Cadwaladr, Cwm Taf Morgannwg, Hywel Dda ac Addysgu Powys. 

Cleifion, rhieni, gofalwyr a defnyddwyr oedd yn parhau i gyfrannu fwyaf at yr adrodd, gan gyfrif am 28% (1,126) o'r holl adroddiadau. Meddygon teulu oedd yr ail grŵp adrodd mwyaf, gan gyflwyno 799 o adroddiadau (19.9%).

Mae'r adroddiad hefyd yn tynnu sylw at gynnydd mewn adroddiadau gan fferyllwyr cymunedol, meddygon teulu, nyrsys a fferyllwyr dan hyfforddiant, ochr yn ochr â chynnydd sylweddol mewn adroddiadau gan fyfyrwyr meddygol.

Parhaodd CCM Cymru i weithio'n agos gyda Hyrwyddwyr y Cerdyn Melyn, Swyddogion Diogelwch Meddyginiaethau Cymru (MSOs) ac aelodau o Rwydwaith Diogelwch Meddyginiaethau Cymru drwy gydol 2025/26.

Cryfhaodd y tîm ei gysylltiadau â phrifysgolion ledled Cymru hefyd, gan ddarparu addysg ar adrodd drwy’r Cerdyn Melyn i israddedigion fferylliaeth a meddygol ym mhrifysgolion Caerdydd ac Abertawe, gan ymgysylltu â myfyrwyr fferylliaeth ym Mhrifysgol Bangor am y tro cyntaf.

Cyflwynwyd amrywiaeth o sesiynau hyfforddi i weithwyr gofal iechyd proffesiynol a chleifion, wedi'u hategu gan ddeunyddiau hyrwyddo dwyieithog i'w defnyddio mewn gofal sylfaenol ac eilaidd. Parhaodd masgot CCM Cymru, Charlie, i fod yn rhan o weithgareddau codi ymwybyddiaeth, ochr yn ochr â gweithgarwch cyfryngau cymdeithasol i annog pobl i adrodd.

Ym mis Gorffennaf 2025, gweithiodd CCM Cymru gydag AWTTC i ddod â chydweithwyr ynghyd ar gyfer Diwrnod Hyfforddi Diogelwch Meddyginiaethau a Diwrnod Arfer Gorau AWTTC ar y cyd, gan gydnabod cyfraniad Hyrwyddwyr y Cerdyn Melyn a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol sy'n ymwneud â diogelwch meddyginiaethau.

Gan edrych i’r dyfodol, bydd CCM Cymru yn parhau i ddatblygu mentrau newydd i annog pobl i adrodd am adweithiau niweidiol i gyffuriau a digwyddiadau dyfeisiau meddygol a amheuir drwy'r Cynllun Cerdyn Melyn, gyda'r nod o gynyddu adrodd ymhellach ledled Cymru.

Darllenwch Adroddiad Blynyddol YCC Cymru 2025 - 2026 i gael manylion am y gweithgareddau a gynhaliwyd a dadansoddiad o’r adroddiadau.

Dilynwch AWTTC: