11 Tachwedd 2024
Roedd y llynedd yn flwyddyn bwysig i Ganolfan Cerdyn Melyn (YCC) Cymru wrth i'r sefydliad ddathlu 40 mlynedd ers ei sefydlu.
I nodi'r garreg filltir hon, dathlodd YCC Cymru gyda'u Diwrnod Diogelwch Meddyginiaethau 2023 yn Stadiwm Dinas Caerdydd. Mynychwyd y digwyddiad gan Swyddogion Diogelwch Meddyginiaethau, Hyrwyddwyr Cerdyn Melyn, fferyllwyr/nyrsys sydd â diddordeb mewn diogelwch meddyginiaethau, ac aelodau o gymuned y dyfeisiau meddygol. Roedd cydweithwyr o'r MHRA a Llywodraeth Cymru hefyd yn bresennol.
Yn ystod y flwyddyn gwelwyd cynnydd yn nifer yr adroddiadau ymhlith y rhan fwyaf o grwpiau ac eithrio Cleifion/Rhieni/Gofalwyr/ Defnyddwyr, Meddygon Teulu, Meddygon Ysbyty, Fferyllwyr Cymunedol, Radiograffwyr a Chrwneriaid.
Ar y cyfan, gostyngodd nifer yr adroddiadau Cerdyn Melyn ar gyfer cynhyrchion meddyginiaethol a gyflwynwyd yng Nghymru o 4024 yn 2022/23 i 3539 yn 2023/24, gostyngiad o 12%.
Gall hyn fod oherwydd gostyngiad mewn gweithgaredd ac adroddiadau sy'n gysylltiedig â’r brechlyn COVID-19. Arhosodd nifer yr adroddiadau am frechlynnau nad oeddent yn rhai COVID yn gymharol ddigyfnewid (2839 yn 2022/23, 2832 yn 2023/24).
Y bwrdd iechyd gyda'r cynnydd canrannol mwyaf yn nifer yr adroddiadau Cerdyn Melyn a gyflwynwyd oedd BIP Betsi Cadwaladr, lle bu cynnydd o 6% yn 2023/24 o'i gymharu â 2022/23. Dangosodd pob bwrdd iechyd arall ostyngiad yn nifer yr adroddiadau a gyflwynwyd ers 2022/23.
Wrth edrych ymlaen at 2024/25 bydd YCC Cymru yn parhau i gyflwyno mentrau newydd i hyrwyddo ac annog adrodd am ADRs drwy'r cynllun Cerdyn Melyn ledled Cymru ac mae'n gobeithio gweld cynnydd pellach mewn cyfraddau adrodd.
Darllenwch Adroddiad Blynyddol YCC Cymru 2023-24 i gael manylion am weithgareddau a wnaed a dadansoddiad o’r adroddiadau.