7 Medi 2026
O wella mynediad at driniaethau newydd i gefnogi defnydd mwy diogel o feddyginiaethau, mae Adroddiad Blynyddol 2025–2026 Grŵp Strategaeth Meddyginiaethau Cymru Gyfan yn tynnu sylw at flwyddyn o gynnydd i gleifion a GIG Cymru.
Gyda chefnogaeth Canolfan Therapiwteg a Thocsicoleg Cymru Gyfan (AWTTC), mae AWMSG yn darparu cyngor “unwaith i Gymru” sy'n seiliedig ar dystiolaeth i Lywodraeth Cymru a GIG Cymru, gan helpu pobl i gael mynediad at driniaethau sy'n briodol yn glinigol ac yn gost-effeithiol lle bynnag y maent yn byw yng Nghymru. Yn ystod y flwyddyn, cymeradwywyd 76 o feddyginiaethau gan NICE neu AWMSG, gan gefnogi mynediad amserol at driniaethau newydd ac effeithiol i gleifion ledled Cymru.
Dywedodd yr Athro Iolo Doull, Cadeirydd AWMSG: “Wrth i ni edrych ymlaen, mae AWMSG yn parhau i fod wedi ymrwymo i gefnogi dull teg a chynaliadwy, sy'n canolbwyntio ar y claf, o ymdrin â meddyginiaethau yng Nghymru. Byddwn yn parhau i wrando, dysgu a gweithio mewn partneriaeth i wella canlyniadau a lleihau amrywiad direswm, fel y gall pobl ledled Cymru elwa o'r feddyginiaeth iawn ar yr amser iawn.”
Mae'r Adroddiad Blynyddol wedi'i strwythuro o amgylch pedwar uchelgais strategol AWMSG:
Cefnogi defnydd mwy diogel o feddyginiaethau
Ymhlith y datblygiadau allweddol roedd cyhoeddi Fframwaith Gofal a Rennir Cymru Gyfan a'r taflenni gwybodaeth cysylltiedig i gleifion, gan gefnogi dull cyson, sy'n canolbwyntio ar y claf, o ymdrin â gofal a rennir rhwng gwasanaethau gofal arbenigol a gofal sylfaenol.
Yn ogystal, cyhoeddodd AWMSG ganllawiau ar gyfer rheoli meddyginiaethau integredig mewn lleoliadau cymunedol, gan helpu sefydliadau iechyd a gofal cymdeithasol i gydweithio i hyrwyddo defnydd mwy diogel a mwy effeithiol o feddyginiaethau.
Gwella mynediad at driniaethau
Parhaodd gwella mynediad at driniaethau arloesol yn ffocws mawr, gydag AWTTC yn cryfhau'r gwasanaethau sy'n cefnogi sganio'r gorwel, asesu meddyginiaethau, dadansoddi data a gweithredu ledled Cymru.
Gwella diogelwch sy'n gysylltiedig â meddyginiaethau
Mae'r adroddiad yn disgrifio gwaith cenedlaethol ar geisiadau brys am feddyginiaeth reolaidd a Fframwaith Hunanweinyddu Meddyginiaethau Cymru Gyfan, sy'n cefnogi cleifion i barhau i reoli eu meddyginiaethau eu hunain yn ddiogel yn ystod derbyniadau i'r ysbyty lle bo'n briodol.
Cyflawni gwerth a chynaliadwyedd
Parhaodd AWMSG i gefnogi gwerth i GIG Cymru drwy lywodraethu cryfach o drefniadau mynediad at feddyginiaethau masnachol a gwaith sy'n cyd-fynd â nodau datgarboneiddio GIG Cymru.
Ymgysylltu, dysgu ac ymchwil
Roedd cyfarfodydd Grŵp er budd Cleifion a'r Cyhoedd, sesiynau Dysgu dros Ginio a gweminarau yn rhoi cyfleoedd i rannu dysgu, casglu adborth a chefnogi arfer gorau ledled Cymru.
Mae'r Adroddiad Blynyddol hefyd yn arddangos proffil ymchwil cynyddol AWTTC, gan gynnwys cyhoeddiadau a adolygwyd gan gymheiriaid a phosteri cynhadledd a gyflwynwyd yn genedlaethol ac yn rhyngwladol ar optimeiddio meddyginiaethau, diogelwch ragnodi, tocsicoleg a stiwardiaeth wrthficrobaidd.
Darllenwch Adroddiad Blynyddol llawn AWMSG 2025-2026 i ddysgu mwy am waith AWMSG i gefnogi defnydd diogel, effeithiol a theg o feddyginiaethau ledled Cymru.