Neidio i'r prif gynnwy

Adolygiad o wenwyndra alwminiwm a gyhoeddwyd gan Uned Gwenwynau Cenedlaethol Cymru

Mae alwminiwm yn gyffredin iawn mewn bywyd pob dydd, ond, yn rhyfeddol, gall achosi gwenwyndra mewn pobl o dan rai amgylchiadau. Yn ddiweddar, cyhoeddodd yr Athro James Coulson a Bethan Hughes, o Uned Gwenwynau Cenedlaethol Cymru, adolygiad awdurdodol o wenwyndra alwminiwm mewn pobl yn y cyfnodolyn Clinical Toxicology (2022; 60 (4) :415-428).

Yn hanesyddol, ystyriwyd bod cyfansoddion alwminiwm yn ddiogel o safbwynt gwenwynegol. Er mai ymhlith gweithwyr ffwrnais a chrochenwyr y disgrifiwyd nodweddion gwenwynegol alwminiwm am y tro cyntaf, nid tan y 1970au y nodwyd ïonau alwminiwm (Al3+) fel achos anemia microsytig, clefyd esgyrn ac enseffalopathi angheuol mewn cleifion â methiant arennol.

Edrychodd yr adolygiad diweddar o wenwyndra alwminiwm gan staff WNPU ar 37 o astudiaethau gwyddonol a gyhoeddwyd, gan gwmpasu 179 o gleifion a oedd yn dod i gysylltiad ag alwminiwm o hylif dialysis, alwminiwm hydrocsid, cyfnewid plasma, llaeth fformiwla babanod, yn y bledren, ac o ddŵr yfed. Canfu'r adolygiad fod y ffordd y mae alwminiwm yn cael ei drin gan y corff dynol yn gymhleth, gan ei fod yn cael ei ddosbarthu'n eang yn y corff, yn cael ei storio mewn esgyrn, a'i rwymo i broteinau. Ar y cyfan canfuwyd y gall dod i gysylltiad ag alwminiwm gwenwynig arwain at niwrowenwyndra a chlefyd esgyrn, yn enwedig mewn cleifion â chlefyd cronig yr arennau ac ymhlith y rhai sy'n dod i gysylltiad ag alwminiwm yn y bledren. Fodd bynnag, canfu'r adolygiad hefyd ei bod yn anodd penderfynu a oes risg i'r boblogaeth gyffredinol, ac na ellir diystyried y posibilrwydd y gall niwrowenwyndra alwminiwm ddigwydd mewn crynodiadau is na'r hyn y mae cleifion â chlefyd cronig cam 5 yr arennau yn dod i gysylltiad ag ef.

Am ragor o wybodaeth, gweler y copi llawn o'r adolygiad:

Coulson JM, Hughes BW (2022) Dose-response relationships in aluminium toxicity in humans. Clinical Toxicology 60(4): 415-428.

Dilynwch AWTTC: