Neidio i'r prif gynnwy

Adolygiad cadarnhaol gan AWMSG yn gwneud cyffur atal HIV ar gael fel mater o drefn yng Nghymru

Yn dilyn astudiaeth lwyddiannus a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru, bydd cyfuniad cyffuriau proffylacsis cyn-gysylltiad er atal HIV ar gael fel mater o drefn i’r rheini sy’n gymwys ledled Cymru.

O ganlyniad i astudiaeth tair blynedd, a lansiwyd ym mis Gorffennaf 2017, i ddefnydd proffylacsis cyn-gysylltiad (PrEP) yng Nghymru bydd y bilsen atal HIV ar gael nawr am ddim i’r rheini sy’n bodloni’r meini prawf. Daw’r newyddion fel carreg filltir arall yn y gwaith i roi terfyn ar heintiau HIV yng Nghymru.

Cynhaliwyd yr astudiaeth er mwyn ateb cwestiynau a godwyd gan Grŵp Strategaeth Meddyginiaethau Cymru Gyfan (AWMSG) ac i gasglu data er mwyn deall sut y byddai pobl yn cyrchu ac yn defnyddio PrEP. Arweiniodd llwyddiant yr astudiaeth, ac argaeledd PrEP generig, AWMSG i argymell defnydd PrEP fel mater o drefn gan GIG Cymru.

"Roedd AWMSG yn hapus i adolygu darpariaeth proffylacsis cyn-gysylltiad (PrEP) er atal HIV yng Nghymru, yn dilyn astudiaeth tair blynedd, a chefnogi darpariaeth barhaus PrEP ar gyfer cleifion yng Nghymru. Bydd PrEP yn chwarae rôl hollbwysig mewn atal HIV yng Nghymru, gyda’r adolygiad yn rhan o waith ehangach AWMSG i sicrhau bod pobl Cymru yn gallu cyrchu’r meddyginiaethau mwyaf priodol a chost-effeithiol," meddai’r Athro Ceri Phillips, Cadeirydd Grŵp Strategaeth Meddyginiaethau Cymru Gyfan (AWMSG).

Defnyddio dull cydweithredol

Am dros dair blynedd mae Canolfan Therapiwteg a Thocsicoleg Cymru Gyfan wedi bod yn gweithio ar y cyd â Llywodraeth Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru, clinigwyr ac Ymddiriedolaeth Terrence Higgins fel rhan o grŵp arbenigwyr HIV annibynnol.

Gofynnwyd i’r grŵp hwn, ynghyd ag Iechyd Cyhoeddus Cymru, gyflawni’r astudiaeth ac adolygu’r data a gasglwyd er mwyn gwerthuso’r defnydd o PrEP yng Nghymru, yn dilyn argymhelliad gwreiddiol negyddol gan AWMSG, oherwydd pryderon ynglŷn â chost-effeithiolrwydd y cyffur. Tra bod hyn yn digwydd rhoddwyd y cyfle i bawb a fyddai’n elwa i gyrchu PrEP drwy’r astudiaeth heb ei chapio.

Offeryn hollbwysig mewn atal HIV yng Nghymru

Mae PrEP yn offeryn hollbwysig yn y gwaith o roi terfyn ar heintiau HIV newydd yng Nghymru, ac fe’i defnyddir fel rhan o strategaeth atal HIV ehangach ar y cyd â chondomau, profi am HIV a thriniaethau gwrthfeirysol.

"Mae hon yn garreg filltir arwyddocaol yn yr ymateb i HIV yng Nghymru. Diolch i’r ddarpariaeth bresennol, mae PrEP eisoes wedi cael effaith wirioneddol yn y frwydr yn erbyn y clefyd yng Nghymru, gyda dim trosglwyddiad HIV newydd ymhlith y rheini sydd wedi bod yn cymryd PrEP yn ystod y tair blynedd diwethaf. Drwy wneud y cyffur HIV pwysig iawn hwn ar gael fel mater o drefn gellir nawr ddatgloi’n llawn ei fanteision," meddai Debbie Laycock, Pennaeth Polisi yn Ymddiriedolaeth Terrence Higgins.

Erbyn hyn mae PrEP yn arfer sydd wedi’i sefydlu yng Nghymru ac mae ar gael ar y GIG i bawb sy’n bodloni’r meini prawf. I gael rhagor o wybodaeth ewch i: https://www.cymruchwareus.org/wales-prep-project.html

Dilynwch AWTTC: