Neidio i'r prif gynnwy

10fed Cyfarfod Gwenwynau a Thocsinoleg Rhyngwladol

Yn ddiweddar mynychodd Uned Gwenwynau Cenedlaethol Cymru (UGCC) y 10fed Cyfarfod Gwenwynau a Thocsinoleg Rhyngwladol yn Rhydychen, DU. Roedd yr UGCC yn gallu cyflwyno pedwar poster yn y cyfarfod yn trafod:

  • Achosion o wenwyndra ibogaine a adroddwyd i Wasanaeth Gwybodaeth Cenedlaethol y DU am Wenwynau (UK NPIS) dros gyfnod o 10 mlynedd,
  • Gwewyndra gohiriedig yn dilyn brathiadau slefrod môr a adroddwyd i’r Gwasanaeth Gwybodaeth Cenedlaethol am Wenwynau (NPIS),
  • Nodweddion systemig difrifol yn dilyn achosion o wenwyno Slefren Mwng Llew, a
  • Thueddiadau mewn achosion o wenwyno Slefren Mwng Llew a adroddwyd i'r Gwasanaeth Gwybodaeth Cenedlaethol am Wenwynau.

Galluogodd y posteri i staff yr UGCCymgysylltu â sbectrwm eang o’r cynrychiolwyr a fynychodd y cyfarfod, ac arweiniodd at ehangu’r rhwydwaith o gysylltiadau proffesiynol sydd ar gael i’r WNPU.

Ar y cyfan, roedd cynulleidfa ryngwladol amrywiol yn bresennol yn y gynhadledd, gan gynnwys gwenwynegwyr a thocsinolegwyr o bob rhan o Ewrop, yn ogystal ag o Algeria, Armenia, Awstralia, Brasil, Chile, Costa Rica, yr Aifft, India, Iran, Mecsico, Morocco, Myanmar, Pacistan, Periw, De Affrica, Gwlad Thai a'r Unol Daleithiau. Roedd y rhaglen yn ymdrin ag amrywiaeth o bynciau gan gynnwys: darganfod gwrthgyrff ailgyfunol ar gyfer trin achosion o wenwyno o ganlyniad i frathiadau nadroedd; datblygu biobrawf llif unffordd ar gyfer rhoi diagnosis cyflym o achosion o wenwyno o ganlyniad i frathiadau nadroedd; effeithiau gwenwyn cobra ar geulo gwaed dynol; canfod tocsinau ricin gyda sbectrometreg màs; ac agweddau amrywiol ar effeithiau economaidd-gymdeithasol a achosir gan frathiadau nadroedd ar gymunedau mewn gwledydd endemig.

Roedd y gynhadledd yn gyfle gwych i rwydweithio â’r gymuned tocsinoleg ryngwladol a chafodd staff UGCC a fynychodd fudd mawr o’r ystod o sgyrsiau, cawsant well dealltwriaeth o’r maes a’r cysylltiadau â gwenwyneg glinigol, a gwnaethant wella eu gwybodaeth am reoli achosion o wenwyno a’u heffaith. Mae rhagor o wybodaeth am gynhadledd Gwenwynau a Thocsinau 2023 ar gael yma .

Dilynwch AWTTC: