Mae Sarah yn fferyllydd cymunedol ac yn ymchwilydd Ôl-ddoethurol mewn Seicoleg Gymhwysol ac Iechyd y Boblogaeth ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd. Mae hi wedi gweithio mewn fferylliaeth gymunedol ers dros 25 mlynedd, gan weld y proffesiwn yn esblygu i'r rôl amlochrog sydd ganddo heddiw. Dechreuodd ei diddordeb mewn Seicoleg Iechyd yn ystod ei Diploma Ôl-raddedig mewn Fferylliaeth Gymunedol a Chlinigol a ffurfiodd agwedd allweddol ar ei PhD. Mae ei diddordebau ymchwil yn cynnwys cyfathrebu iechyd a dulliau seiliedig ar dystiolaeth o gefnogi newid ymddygiad, yn enwedig ymlyniad wrth feddyginiaeth.