Mae dod i un o'n cyfarfodydd Grŵp Buddiannau Cleifion a Chyhoeddus (PAPIG) yn ffordd wych o ddarganfod mwy amdanom ni a sut i gymryd rhan yn ein gwaith. Mae croeso i bawb.
Cynhelir y cyfarfod hwn yn rhithwir drwy Zoom o 10:00-12:00
Mae’r cyflwyniadau yn y cyfarfod yn cynnwys:
Byddem wir yn hoffi clywed barn a phrofiadau cleifion a gofalwyr ac felly bydd amser i drafod a holi cwestiynau.
Rydym yn gobeithio y gwnewch chi ymuno â ni ar gyfer y digwyddiad rhad ac am ddim hwn. Llenwch ein ffurflen ar-lein os hoffech ddod i'r cyfarfod.
Bydd fideos o'r cyflwyniadau ar gael o fan hyn yn fuan.
18 Mawrth 2025 |
||
Mae fideos o bob un o gyflwyniadau’r diwrnod ar gael isod (Saesneg yn unig) Crynodeb AWTTC (Sabrina Rind, AWTTC)
Ymyriadau nad ydynt ar gael fel arfer ar y GIG – beth ydynt, beth yw'r amgylchiadau pan fyddant yn cael eu cynnig a sut mae pobl yn dod i wybod amdanynt? (Ann Marie Matthews, Aneurin Bevan University Health Board)
Proses asesu meddyginiaethau AWMSG wedi'i diweddaru - a sut y gallwch gynnig meddyginiaeth i'w hystyried (Gail Woodland, AWTTC) |
||
29 Tachwedd 2024 |
||
Mae fideos o bob un o gyflwyniadau’r diwrnod ar gael isod (Saesneg yn unig). Ymgyrch Eich Meddyginiaethau, Eich Iechyd – helpu pobl yng Nghymru i gael y gorau o'u meddyginiaethau (Claire Thomas, AWTTC)
Pam rydyn ni'n ymddwyn yn y ffordd rydyn ni'n ei wneud? Sut gall deall seicoleg iechyd helpu i gefnogi ymlyniad (Dr Sarah Brown, Cardiff Metropolitan University)
KidzMedz Cymru – gwella ymlyniad wrth feddyginiaeth mewn plant drwy eu dysgu sut i lyncu pils yn ddiogel (Bethan Davies, Cardiff and Vale UHB) |
||
12 Medi 2024 |
||
Mae fideos o bob un o gyflwyniadau’r diwrnod ar gael isod (Saesneg yn unig). Wythnos Diogelwch Meddyginiaethau a Diwrnod Diogelwch Cleifion y Byd- codi ymwybyddiaeth ar ddiogelwch meddyginiaethau (Jenna Walker, YCC Wales)
Dadorchuddio tueddiadau diogelwch meddyginiaethau (Dr Laurence Gray, AWTTC) |
||
22 Mai 2024 |
||
Mae fideos o bob un o gyflwyniadau’r diwrnod ar gael isod (Saesneg yn unig). Cael y label yn iawn — a oes gennych alergedd gwirioneddol i benisilin? (Dr Laurence Gray, AWTTC)
Mynd i'r afael ag ymwrthedd i wrthfiotigau – yr hyn y gallwn ei wneud i helpu (Meryl Davies, Public Health Wales)
Diweddariad ar Ganolfan Cerdyn Melyn Cymru (Dr Alison Thomas, YCC Wales)
Diweddariad ar y broses o gael mynediad ar feddyginiaethau (Dr Steph Francis, AWTTC) |
||
27 Chwefror 2024 |
||
Ffocws y cyfarfod hwn oedd diabetes math 2. Mae fideos o bob un o gyflwyniadau’r diwrnod ar gael isod (Saesneg yn unig). Crynodeb AWTTC (Ruth Lang, AWTTC)
Dull cyfannol o reoli diabetes math 2 (Dr Sarah Davies, Arweinydd Cymru Gyfan ar gyfer Diabetes mewn Gofal Sylfaenol)
Y Rhwydwaith Clinigol Strategol Cenedlaethol ar gyfer Diabetes (Susan Marszalek, Rheolwr Prosiect, Rhwydwaith Clinigol Strategol Cenedlaethol ar gyfer Diabetes)
Atal a lleddfu diabetes math 2 yng Nghymru (Cath Washbrook-Davies, Arweinydd Deieteg Cymru Gyfan ar gyfer Diabetes ac Arweinydd Deieteg ar gyfer Rhaglen Atal Diabetes Cymru Gyfan)
Cynnwys cleifion mewn strategaethau i fynd i’r afael â diabetes yng Nghymru (Rob Lee, Grŵp Cyfeirio Cleifion Diabetig Cymru Gyfan) |
||
19 Hydref 2023 |
||
Mae fideos o bob un o gyflwyniadau’r diwrnod ar gael isod (Saesneg yn unig). Crynodeb AWTTC (Ruth Lang, AWTTC)
Cymru difficile – haint C. difficile yng Nghymru (Dr Michael Perry, Iechyd Cyhoeddus Cymru)
Wythnos Diogelwch Meddyginiaethau 2023 (Dr Caroline Norris, Canolfan Cerdyn Melyn Cymru)
Meddyginiaethau llysieuol – yn ddiogel ac yn naturiol? (Dr Rob Bracchi, AWTTC)
Y 5 mlynedd nesaf – sut y bydd AWMSG yn cefnogi GIG Cymru i sicrhau’r canlyniadau gorau o feddyginiaethau (Dr Stephanie Francis a Dr Tom Curran, AWTTC)
|
||
6 Gorffennaf 2023 |
||
Mae fideos o bob un o gyflwyniadau’r diwrnod ar gael isod (Saesneg yn unig). Crynodeb AWTTC (Karen Jones, AWTTC)
Sut i roi’r gorau i gyffuriau gwrth-iselder yn ddiogel (Stevie Lewis and Dr Mark Horowitz, Institute for Psychiatric Drug Withdrawal)
Llinell gymorth meddyginiaethau i gleifion (Joanne Hubbard a Andrea Griffiths, Gwasanaeth Cyngor ar Feddyginiaethau Cymru)
Gwneud gwybodaeth i gleifion yn hygyrch ac yn gynhwysol (Simon Rose, Anabledd Dysgu Cymru)
Taflen hawdd ei darllen i bobl y rhagnodwyd tramadol (Karen Jones, AWTTC)
Gwybodaeth i’r cyhoedd am atal gwenwyno (Talan Parnell, Uned Gwenwynau Cenedlaethol Cymru, AWTTC)
Datgarboneiddio: presgripsiynu, defnyddio a gwaredu anadlyddion 2023–2030; Strategaeth genedlaethol i Gymru (Richard Boldero, AWTTC) |
||
20 Ebrill 2023 |
||
Ffocws y cyfarfod hwn yw amlgyffuriaeth. Mae amlgyffuriaeth (un person yn cymryd sawl math o feddyginiaeth) yn gysylltiedig â risg uwch o wynebu problemau gan gynnwys sgil-effeithiau. Y cyflwyniadau yn y cyfarfod:
Bydd fideos o'r cyflwyniadau ar gael yma yn fuan. |
||
7 Chwefror 2023 |
||
Ffocws y cyfarfod hwn oedd fferylliaeth yn y gymuned ac mewn Ymarfer Cyffredinol. Mae fideos o bob un o gyflwyniadau’r diwrnod ar gael isod (Saesneg yn unig). Presgripsiynu rheolaidd a’r broses adolygu meddyginiaeth flynyddol mewn Ymarfer Cyffredinol (Rachel Brace)
Beth sy’n newydd mewn fferylliaeth gymunedol (Kayleigh Williams)
|
||
21 Hydref 2022 |
||
Ffocws y cyfarfod ar-lein hwn oedd effaith amgylcheddol meddyginiaethau. Mae fideos o bob un o gyflwyniadau’r diwrnod ar gael isod (Saesneg yn unig). Sut mae AWTTC/AWMSG yn cefnogi’r agenda cynaliadwyedd meddyginiaethau (Richard Boldero, AWTTC)
Ailgylchu anadlyddion mewn fferylliaeth gymunedol (Oliver Newman, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe)
Safbwynt y diwydiant fferyllol ar gynaliadwyedd mewn perthynas â meddyginiaethau (Steve Hoare, ABPI)
Safbwyntiau cleifion ar gynaliadwyedd (Joseph Carter, Lung and Asthma UK) Diweddariad ar Ganolfan Cerdyn Melyn Cymru (Jenna Walker, YCC Wales) Am Uned Gwenwynau Cenedlaethol Cymru (Bethan Hughes, WNPU) |
||
18 Mawrth 2022 |
||
|
||
12 Tachwedd 2021 |
||
|
||
23 Gorffennaf 2021 |
||
Fe wnaethon ni stopio ein gweithgareddau PAPIG wyneb yn wyneb arferol yn 2020 oherwydd y pandemig coronafirws. Fodd bynnag, gwnaethom ail-gychwyn ein cyfarfodydd chwarterol trwy gynnal ein cyfarfod rhithwir cyntaf erioed PAPIG ar 23 Gorffennaf 2021. Mae fideo o'r digwyddiad hwn ar gael isod ac mae rhaglen y cyfarfod ar gael hefyd. |