Neidio i'r prif gynnwy

Rhaglen Waith AWTTC 2025-2028

Mae Rhaglen Waith AWTTC 2025-2028 yn amlinellu amcanion strategol sydd â'r nod o wella mynediad at feddyginiaethau, optimeiddio a defnyddio data yng Nghymru. Mae'r rhaglen waith yn dwyn ynghyd flaenoriaethau a nodwyd gyda'n sefydliadau partner, gwaith sy'n cael ei gyflawni fel rhan o Raglen Fuddsoddi'r Cynllun Gwirfoddol ar gyfer Prisio, Mynediad a Thwf Meddyginiaethau (VPAG), a llawer o'r nodau a nodwyd yn Grŵp Strategaeth Meddyginiaethau Cymru Gyfan (AWMSG) - Strategaeth ar gyfer Cymru: 2024-2029.

Mae'n canolbwyntio ar:

  • wella dulliau sganio’r gorwel o ran meddyginiaethau a rhagolygon ariannol.
  • datblygiad parhaus yr ecosystem mynediad at feddyginiaethau a'n prosesau ar gyfer asesu meddyginiaethau.
  • prosesau newydd a gwell sy'n cefnogi’r broses o roi meddyginiaethau newydd ar waith.
  • rhannu a defnyddio data sy'n gysylltiedig â meddyginiaethau yn well.
  • datblygiad parhaus adnoddau optimeiddio meddyginiaethau o ansawdd uchel.
  • asesiad economaidd iechyd gwell i gefnogi holl allbynnau AWTTC.

Gyda'r gwaith wedi dechrau o fis Ebrill 2025, rydym yn falch o gyhoeddi bod ein rhaglen waith ar gael i'r cyhoedd. Darllenwch isod am ddadansoddiad mwy manwl o'r amcanion:

 
Dilynwch AWTTC: