Mae'r Cynllun Gwirfoddol ar gyfer Prisio Meddyginiaethau wedi’u Brandio, Mynediad a Thwf (VPAG) yn gytundeb rhwng Llywodraeth y DU a Chymdeithas Diwydiant Fferyllol Prydain (ABPI), sy'n rhedeg o 2024 i 2028. O dan y cynllun hwn, mae tua £400 miliwn yn mynd tuag at Raglen Fuddsoddi nodedig VPAG. Mae'r rhaglen hon yn darparu buddsoddiadau ar draws pedair gwlad y DU i gyflymu arloesedd, gwella mynediad cleifion at feddyginiaethau, a chryfhau arweinyddiaeth fyd-eang y DU mewn technoleg iechyd a gwyddorau bywyd.
Mae Canolfan Therapiwteg a Thocsicoleg Cymru Gyfan (AWTTC) yn arwain y gwaith o gyflwyno rhaglen Asesiad Technoleg Iechyd (HTA) Rhaglen Fuddsoddi VPAG yng Nghymru. Nod y rhaglen genedlaethol hon yw sicrhau bod cleifion yng Nghymru yn elwa ar fynediad cyflymach at driniaethau newydd ac effeithiol, gan gefnogi'r GIG i wneud penderfyniadau gwybodus a chynaliadwy am feddyginiaethau.
Mae HTA Bwrdd Rhaglen Fuddsoddi VPAG (Cymru) yn darparu arweinyddiaeth a goruchwyliaeth strategol. Gan adrodd yn uniongyrchol i Fwrdd Rhaglen Fuddsoddi VPAG y DU, mae Bwrdd Cymru yn sicrhau bod pob menter yn cyd-fynd ag amcanion ledled y DU wrth ddiwallu anghenion penodol GIG Cymru.
Mae Swyddfa Rheoli Rhaglenni bwrpasol yn cydlynu'r ddarpariaeth drwy bedwar prosiect cydgysylltiedig:
Mae'r prosiect hwn yn datblygu gwasanaeth sganio’r gorwel 'unwaith i Gymru', gan ddarparu gwybodaeth gynnar am feddyginiaethau a thechnolegau newydd sy'n cael eu datblygu. Drwy gydweithio â phartneriaid yn y DU fel UKPharmaScan a NICE, bydd y gwasanaeth yn:
Nod y prosiect hwn yw trawsnewid y ffordd y mae GIG Cymru yn gwerthuso meddyginiaethau newydd, gan sicrhau mynediad teg, cyson, ac yn seiliedig ar dystiolaeth.
Bydd yn:
Mae'r prosiect hwn yn canolbwyntio ar sicrhau bod meddyginiaethau newydd sydd wedi'u cymeradwyo i'w defnyddio yn cael eu defnyddio'n effeithiol ac yn gyson ar draws GIG Cymru. Mae'r blaenoriaethau allweddol yn cynnwys:
Mae datgloi potensial llawn data yn hanfodol i wella mynediad at feddyginiaethau ac i wella canlyniadau cleifion. Mae'r prosiect hwn yn arwain y broses o wneud penderfyniadau sy'n seiliedig ar ddata drwy:
Cysylltwch â ni yn awttc@wales.nhs.uk os hoffech gael rhagor o wybodaeth am Raglen VPAG.