Rydym yn sefydliad GIG Cymru ac yn gweithio gyda chleifion, gofalwyr a sefydliadau cleifion, gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, y diwydiant fferyllol, Llywodraeth Cymru a sefydliadau DU gyfan perthnasol er mwyn argymell meddyginiaethau newydd a gwneud yn siŵr bod meddyginiaethau’n cael eu defnyddio’n effeithiol ac yn briodol yng Nghymru.
- Optimeiddiad meddyginiaethau
- Asesu meddyginiaethau newydd
- Dadansoddi tueddiadau mewn presgripsiynu a gwella defnydd meddyginiaethau yng Nghymru
- Gwella diogelwch meddyginiaethau
- Adrodd am sgil effeithiau a amheuir difrifol meddyginiaethau (adweithiau niweidiol i gyffuriau)
- Addysg a hyfforddiant i weithwyr gofal iechyd proffesiynol a’r cyhoedd a grwpiau cleifion
- Gwasanaethau tocsicoleg
- Gwasanaethau clinigol arbenigol (e.e. rheoli gorbwysedd ac adweithiau niweidiol a amheuir i feddyginiaethau)
- Sganio’r gorwel
Rydym wedi ein lleoli yng Nghanolfan Academaidd Routledge yn ysbyty Athrofaol Llandochau.