Mae Sodiwm Falproad (falproad) yn feddyginiaeth effeithiol a ddefnyddir i drin epilepsi ac anhwylder deubegynol. Mae nifer o gynhyrchion meddyginiaethol yn cynnwys sodiwm falproad neu asid falproig ac efallai y bydd pobl yn fwy cyfarwydd ag enwau brand y meddyginiaethau hyn, sy’n cynnwys Epilim® a Depakote®.
Rhwng mis Ebrill 2022 a mis Mawrth 2023 gweinyddwyd dros 200,000 o bresgripsiynau ar gyfer meddyginiaethau a oedd yn cynnwys falproad ac mae rhwng 15,000 ac 20,000 o bobl yn cael falproad ar bresgripsiwn yn rheolaidd yng Nghymru.
Yn 2018, arweiniodd adolygiad cynhwysfawr o ddiogelwch falproad at newidiadau rheoleiddiol gyda’r bwriad o leihau nifer y babanod heb eu geni sy’n dod i gysylltiad â falproad. Roedd y rhain yn cynnwys gwaharddiad ar ddefnyddio falproad ar gyfer meigryn neu anhwylder deubegynol yn ystod beichiogrwydd, a gwaharddiad ar ddefnyddio falproad i drin epilepsi yn ystod beichiogrwydd oni bai nad oes triniaeth effeithiol arall ar gael.
Mae rheoleiddiwr meddyginiaethau’r DU, yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA), yn mynnu na ddylid defnyddio falproad ar gyfer unrhyw fenyw neu ferch sy’n gallu cael plant oni bai bod rhaglen atal beichiogrwydd (PPP) ar waith.
Mae rhagor o wybodaeth am y mesurau rheoleiddio i leihau'r niwed o falproad ar gael yn: