Neidio i'r prif gynnwy

Meddyginiaethau ar gyfer lleddfu poen ysgafn i gymedrol (Wedi'i dynnu'n ôl)

Dylai cleifion allu cyrchu gwybodaeth yn hawdd i'w galluogi i wneud penderfyniadau gwybodus am eu hiechyd. Mae'r daflen hon yn darparu gwybodaeth ysgrifenedig am y meddyginiaethau sydd ar gael i leddfu poen ysgafn i gymedrol, dros y cownter ac ar bresgripsiwn.

Mae'r adnodd hwn wedi’i dynnu’n ôl ac nid yw bellach yn cael ei ystyried yn adnodd a gymeradwyir gan AWMSG.

Cafodd yr adnodd asesiad i'w adolygu ym mis Mehefin 2024. Bryd hynny roedd aelodau Grŵp Cynghori Cymru Gyfan ar Ragnodi (AWPAG) o'r farn ei bod yn briodol tynnu’r adnodd yn ôl.

Ystyriwyd bod y cynnwys yn yr adnodd wedi dyddio ac, heb arwydd y byddai fersiwn wedi'i diweddaru o'r adnodd o fudd sylweddol i GIG Cymru, roedd aelodau AWPAG o'r farn ei bod yn fwyaf priodol i'r adnodd gael ei dynnu’n ôl ar hyn o bryd.

 

Os ydych chi'n credu y dylid ailystyried yr adnodd hwn i'w adolygu, cysylltwch â AWTTC drwy e-bostio awttc@nhs.wales.uk.

Dilynwch AWTTC: