Mae'r ddogfen bolisi hon yn targedu’r broses o gaffael a rheoli nwyon meddygol, ac mae'n canolbwyntio ar ocsid nitrus (N2O) a 50% ocsid nitrus a 50% cymysgedd ocsigen, sef Entonox®, fel y’i gelwir yn gyffredin o dan yr enw masnach.
Nod y prosiect hwn yw atal pob defnydd ar y nwy anesthetig desfflwran mewn ysbytai yng Nghymru. Mae hyn oherwydd ei effaith gormodol ar yr amgylchedd, diffyg budd clinigol o’i gymharu â dewisiadau eraill sydd ar gael yn fwy diweddar, a chost uchel.
Mae’r ddogfen hon yn nodi strategaeth genedlaethol i leihau ôl troed carbon anadlyddion yng Nghymru, ac yn amlinellu’r camau allweddol i’r GIG a’i bartneriaid yng Nghymru i:
Mae'r strategaeth hon yn nodi'r camau y bydd y GIG a'i bartneriaid yng Nghymru yn eu cymryd i gefnogi'r amodau sydd eu hangen i greu marchnad feddyginiaethau biolegol a bio-debyg cryf a chystadleuol yn y DU er budd y GIG, cleifion ac economi Cymru.