Neidio i'r prif gynnwy

Enghreifftiau o arfer da

Mae dangosyddion rhagnodi cenedlaethol (NPIs) yn dangos sut y mae’r gwahanol fyrddau iechyd yng Nghymru yn rhagnodi meddyginiaethau penodol, ac yn tynnu sylw at unrhyw wahaniaethau mewn patrymau rhagnodi. Bob chwarter, mae adroddiad yn cael ei lunio sy’n dadansoddi perfformiad pob bwrdd iechyd yn erbyn y set bresennol o NPIs ac anogir byrddau iechyd i gyflwyno enghreifftiau o fentrau, adolygiadau a gwaith parhaus sydd wedi arwain at welliannau ac optimeiddio ym maes rhagnodi.

Cynhwysir enghreifftiau o arfer da yn yr adroddiadau chwarterol i hyrwyddo a hwyluso’r broses o rannu gwybodaeth er mwyn gwella arfer rhagnodi yng Nghymru.

Mae’r enghreifftiau hyn o arfer da wedi’u crynhoi isod a gellir eu gweld yn ôl bwrdd iechyd neu’n gronolegol.  

I gael rhagor o wybodaeth am unrhyw un o’r mentrau neu enghreifftiau o arfer da, cysylltwch â awttc@wales.nhs.uk

Dangosyddion gweithredol:

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro – Ch2 2024–2025

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro wedi bod yn tynnu sylw at negeseuon diogelwch ynghylch opioidau a gabapentinoidau ers blynyddoedd lawer.

Rhwng 5-10 mlynedd yn ôl, trefnodd Caerdydd a’r Fro fod siaradwyr o fewn Gwasanaeth Poen y Bwrdd Iechyd, a hefyd meddyg teulu a oedd yn gweithio mewn carchar lleol yn rhoi cyflwyniadau i’r meddygon teulu ar adegau amrywiol am rôl gyfyngedig a pheryglon opioidau a gabapentinoidau mewn poen cronig. Mae Caerdydd a’r Fro wedi parhau i atgyfnerthu’r neges hon ar bob cyfle, mewn cyfarfodydd rhagnodi, gan amlygu amrywiaeth o fewn clystyrau ac o fewn y bwrdd iechyd. Mae Caerdydd a’r Fro hefyd yn tynnu sylw practisau at fanylion cleifion ar opioidau cryfder uchel, fel y gellir eu hadolygu. Ailedrychwyd ar y pwnc pan amlygwyd y risg sy'n gysylltiedig ag opioidau a gabapentinoidau cydredol.

Fel rhan o Gynllun Cymhelliant Rheoli Meddyginiaethau Caerdydd a’r Fro sawl blwyddyn yn ôl, cynhwyswyd sesiwn e-ddysgu ar ddefnyddio Opioid mewn Poen Cronig drwy Prescqipp. Roedd pob rhagnodwr a fyddai’n rhagnodi neu’n rheoli cleifion â phoen cronig yn cael eu cymell i gwblhau hyn, ac roedd yn bosibl dweud drwy’r wefan a oeddent wedi gwneud ai peidio (gan fod yn rhaid iddynt gofrestru).

Er y gall y rhagnodi fod yn rhannol gysylltiedig â demograffeg, mae clystyrau â chyfraddau uchel o amddifadedd yng Nghaerdydd a’r Fro. Er bod cyfraddau rhagnodi yn y clystyrau hyn yn gyffredinol uwch, mae rhai practisau â chyfraddau isel o hyd.

Nid yw Caerdydd a’r Fro yn gwneud unrhyw waith gweithredol ar hyn o bryd ond maent yn atgoffa practisau yn barhaus o’r negeseuon diogelwch a rôl gyfyngedig opioidau a gabapentinoidau ar gyfer poen cronig. 

BIP Aneurin Bevan – Chwarter yn dod i ben ym mis Mawrth 2024

Crëwyd Archwiliad Pregabalin gan dîm rheoli meddyginiaethau BIP Aneurin Bevan gyda’r nod o hyrwyddo dull diogel o ragnodi pregabalin yn unol â’r canllawiau cyfredol; ac fe’i treialwyd mewn practis rhagnodi uchel yn Ne Caerffili. Yna cafodd Pecyn Adnoddau Rhagnodi Gabapentinoid ar gyfer poen ei greu a'i gymeradwyo gan y bwrdd iechyd.

Mae Archwiliad Pregabalin BIP Aneurin Bevan wedi'i gynnwys fel rhan o Gynllun Cymhelliant Practisau y bwrdd iechyd (Rhaglen Rhagnodi Effeithiolrwydd Clinigol – CEPP). Er mwyn cynorthwyo practisau meddygon teulu i weithredu'r archwiliad, trefnwyd dwy sesiwn dysgu dros ginio mewn cydweithrediad â siaradwyr arbenigol yn y maes hwn. Cysylltwyd â phractisau rhagnodi uchel a threfnwyd cyfarfodydd ag ymgynghorwyr tîm poen i drafod rhagnodi a chynnig cymorth pellach.

Cwblhawyd yr archwiliad gan bob practis meddyg teulu ar draws BIP Aneurin Bevan. Gofynnwyd i bractisau meddygon teulu archwilio 30/40 o gleifion a oedd wedi cael pregablin ar bresgripsiwn, roedd hyn yn dibynnu a oedd y practis yn bodloni targed y Dangosydd Rhagnodi Cenedlaethol (NPI) ar gyfer y flwyddyn flaenorol. Cafodd cyfanswm o 2,547 o gleifion eu cynnwys yn yr archwiliad. Cwblhawyd archwiliadau gan y Rhwydwaith Gofal Cymdogaeth (NCN) a Fferyllwyr Practis.

BIP Bae Abertawe – Chwarter yn dod i ben ym mis Medi 2022

Mae BIP Bae Abertawe wedi mabwysiadu dull system gyfan o wella rheolaeth poen. Drwy broses o ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol, ceisiodd y bwrdd iechyd ddeall llwybrau rheoli poen lleol yn well a hwyluso ffocws ar dri maes allweddol:

  • Gwella’r broses o ddarparu gofal a chymorth i gleifion;
  • Gwella'r cymorth a ddarperir i weithwyr gofal iechyd proffesiynol;
  • Gwella cyfathrebu ynghylch rheoli poen yn rhyngwyneb gofal.

Mae'r gwaith wedi cynnwys sawl prosiect gwella ansawdd gan gynnwys treialu ymyriadau i wella cyfathrebu rhwng gwasanaethau, darparu cymorth tîm amlddisgyblaethol a dod â gofal yn nes at gleifion.

Dros y 12 mis diwethaf, mae’r bwrdd iechyd wedi canolbwyntio’n fwy penodol ar ragnodi gabapentin a pregabalin drwy gynnal archwiliadau a rhannu arfer gorau.

 

Bydd gwybodaeth arfer da ar gyfer y dangosydd hwn yn cael ei chyflwyno yma pan fydd ar gael.

BIP Cwm Taf Morgannwg – Ch2 2024–2025

Cyflwynodd BIP Cwm Taf Morgannwg ganllawiau gwrthficrobaidd cyfyngol i leihau rhagnodi gwrthficrobaidd 4C.

Cyflwynodd Cwm Taf Morgannwg ganllawiau gwrthficrobaidd cyfyngol sy'n argymell defnyddio gwrthficrobau sbectrwm cul, lle bo hynny'n bosibl. Ar adegau, cynghorir gwrthficrobau sbectrwm cul ar y cyd â gwrthficrobau sbectrwm cul eraill yn lle defnyddio un cyfrwng sbectrwm eang. Mae'r strategaeth hon yn cynyddu cyfanswm yr eitemau gwrthficrobaidd a ragnodir ond credir ei bod yn lleihau ymwrthedd gwrthficrobaidd i wrthficrobau sbectrwm eang ac yn cadw mwy o ficrobiome'r perfedd.

O fewn gofal eilaidd, cyflwynodd Cwm Taf Morgannwg hefyd restr wirio quinolone y gofynnir i ragnodwyr ei chwblhau bob tro y mae penderfyniad i ragnodi fluoroquinolone. Bwriad y rhestr wirio hon yw sicrhau bod canllawiau'r Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA) yn cael eu dilyn a bod y broses o wneud penderfyniadau ar y cyd/cael cydsyniad cleifion yn cael ei dogfennu. Mae Cwm Taf Morgannwg hefyd yn defnyddio siartiau Pecyn Adolygu Gwrthficrobaidd (ARK) ar bob safle ysbyty pan gaiff meddyginiaeth gwrthficrobaidd ei ragnodi.

BIP Betsi Cadwaladr Ch4 Mawrth 2024

Mae’r tîm Cymorth Rhagnodi ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi rhoi nifer o strategaethau ar waith i leihau’r broses o ragnodi cyffuriau 4C.

  • Yn 2022, tynnwyd 4Cs o’r MicroGuide lle'r oedd opsiynau amgen a oedd yn glinigol briodol ar gael.
  • Mae dangosfwrdd defnydd data gwrthficrobaidd pwrpasol lleol a ddatblygwyd gan dîm dadansoddi data BIP Betsi Cadwaladr yn cefnogi adborth wedi'i dargedu ar gyfer practisau.
  • Mae ymgysylltu da rhwng meddygon teulu, fferyllwyr gwrthficrobaidd a’r tîm fferyllol ehangach yn cefnogi cyfathrebu, archwilio ac adborth unigol.
  • Gweithio ar y cyd rhwng y tîm fferylliaeth a meddygon teulu i adolygu cyffuriau gwrthficrobaidd sy’n cael eu rhoi yn rheolaidd (yn enwedig ar gyfer UTIs sy’n para mwy na 6 mis), a gefnogwyd gan yr arweinydd clinigol wroleg. Nid yw cefalexin yn cael ei adrodd yn rheolaidd ar feithriniad wrin ac eithrio pediatreg, beichiogrwydd neu os nad oes dewisiadau eraill ar gael.

BIP Bae Abertawe Ch1 Mehefin 2024

Cyflwynodd BIP Bae Abertawe amrywiaeth o gamau gweithredu trwy ei raglen stiwardiaeth wrthficrobaidd a arweiniodd at ostyngiad parhaus mewn rhagnodi cyffuriau gwrthficrobaidd 4C ers 2019.

Mae meddygon teulu wedi cwblhau archwiliadau blynyddol sy'n canolbwyntio ar ragnodi cyffuriau gwrthficrobaidd 4C. Mae canlyniadau'r archwiliad yn cael eu bwydo'n ôl i bob practis meddyg teulu trwy sesiynau arweinwyr rhagnodi lle gofynnir i feddygon teulu rannu arfer da gyda'r grŵp. Defnyddir y sesiwn hefyd i hyrwyddo negeseuon addysgol allweddol megis risgiau o ragnodi cyffuriau gwrthficrobaidd 4C a mwy o ymwybyddiaeth o ddewisiadau eraill yn y canllawiau yn ogystal â darparu adnoddau cefnogol (e.e. posteri, offer archwilio). Mae'r arweinydd rhagnodi yn gyfrifol am adrodd yn ôl i staff clinigol eraill yn eu practis a chytuno ar gynllun gweithredu ar gyfer y practis yn seiliedig ar y wybodaeth a ddarparwyd yn y cyfarfod.

Mae fferyllwyr gwrthficrobaidd Bae Abertawe yn defnyddio data archwilio ar wahân i nodi arwyddion bod cyffuriau gwrthficrobaidd 4C yn cael eu rhagnodi nad ydynt wedi'u cynnwys yn y canllawiau presennol. Datblygir canllawiau ychwanegol i gwmpasu'r arwyddion hyn yn ogystal â diweddaru'r canllawiau presennol i gyfeirio rhagnodwyr at wrthfiotigau sbectrwm cul pan fo'n briodol, gan ysgogi gostyngiadau pellach.

 

BIP Hywel Dda Ch3 Rhagfyr 2023

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi rhoi ystod o gamau ar waith i annog y defnydd o anadlyddion Potensial Cynhesu Byd-eang (GWP) is pan fo’n briodol i gleifion. O dan strwythur Gofal Iechyd Cynaliadwy sydd ar waith o fewn Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, mae’r grŵp ‘Gweithredu ar Ofal Iechyd’ yn adolygu’r holl fentrau datgarboneiddio a chynaliadwyedd o fewn lleoliadau clinigol (gan gynnwys caffael a meddyginiaethau). Mae is-grŵp o 'Gweithredu ar Ofal Iechyd' yn canolbwyntio'n benodol ar newid anadlyddion; mae'n cael ei gadeirio gan ymgynghorydd anadlol ac mae ganddo gynrychiolaeth o blith fferyllwyr gofal sylfaenol ac eilaidd, a nyrsys anadlol. Mae mesurau penodol a weithredwyd hyd yma o fewn Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cynnwys:

  • Cyfarfodydd is-grŵp 'Gweithredu ar Ofal Iechyd' chwarterol i adolygu'r cynnydd presennol o fewn gofal sylfaenol yn erbyn data SPIRA ac i drafod sut i ddylanwadu ar bractisau a chlinigwyr a’u cynorthwyo i gyflawni nodau datgarboneiddio.
  • Defnyddio data gofal eilaidd o’r system Rheoli Stoc Fferyllol i adolygu defnydd a nodi mentrau i leihau gor-ragnodi MDIs (yn enwedig salbutamol) megis rheoli lle mae ar gael fel stoc ar wardiau.
  • Cynnal sesiynau addysgu ar gyfer nyrsys practis a rhagnodwyr eraill i amlygu newidiadau allweddol mewn canllawiau rhagnodi lleol a chenedlaethol ynghylch datgarboneiddio.

Mae’r tîm optimeiddio Meddyginiaethau Gofal Sylfaenol hefyd wedi cynnwys datgarboneiddio anadlyddion fel rhan o’r Cynllun Rheoli Rhagnodi (PMS) eleni i ategu 

gwaith anadlyddion gwyrdd y Fframwaith Gwella Ansawdd (QIF) y mae practisau yn ei gwblhau. Mae'r tîm fferylliaeth yn rhoi adborth i bractisau ac yn canolbwyntio ar ddatgarboneiddio anadlyddion yng nghyfarfodydd PMS blynyddol y practisau, yn ogystal â chyflwyno diweddariadau datgarboneiddio ac anadlol clinigol mewn cyfarfodydd clwstwr a chyfarfodydd Arweinwyr Rhagnodi chwarterol.

Yn ogystal, mae Nyrsys Clinigol Arbenigol asthma (CNSs) yn cynorthwyo practisau gofal sylfaenol i adolygu defnyddwyr SABA uchel yn unol â chanllawiau asthma lleol a chenedlaethol gyda'r nod o leihau'r defnydd o SABA a newid i drefn asthma sy'n fwy priodol yn glinigol. Mae CNSs Asthma yn anelu at gynnig DPIs llinell gyntaf os yw'n glinigol briodol.

Mae clinigau adolygu anadlyddion wythnosol hefyd yn cael eu rhedeg gan Gynghorydd Fferylliaeth Arbenigol mewn practis a nodir o ddata SPIRA fel rhagnodwyr DPI isel. Nod y clinig yw nodi cleifion sy'n addas ar gyfer newid i DPI ar ôl trafodaeth tîm amlddisgyblaethol gyda'r nyrs glinigol arbenigol asthma. Mae cleifion yn cael cynnig apwyntiad wyneb yn wyneb gyda’r Cynghorydd Fferylliaeth Arbenigol i drafod cydymffurfiaeth anadlyddion, defnydd SABA a datgarboneiddio. Mae techneg anadlyddion hefyd yn cael ei gwirio a chynigir trefn Therapi Cynnal a Lleddfu (MART) ar gyfer DPI os yw'n briodol yn glinigol a gyda chwnsela llawn ar dechneg anadlyddion. Mae adborth o’r dull clinigol cydweithredol hwn wedi bod yn gadarnhaol gyda thîm asthma’r CNS yn ogystal â phractisau meddygon teulu, gan yr ystyrir bod y clinig o fudd i gleifion tra hefyd yn cynorthwyo’r practis i weithio tuag at nodau datgarboneiddio.

BIP Addysgu Powys Ch2 Medi 2022

Gan ddefnyddio data o Ddangosfwrdd Datgarboneiddio SPIRA, mae BIP Addysgu Powys yn cyhoeddi adroddiadau misol i'w practisau meddygon teulu, gan amlygu data ôl troed carbon cyffredinol ac NPI. Mae'r adroddiad yn arwain at gystadleuaeth gyfeillgar a rhannu arfer gorau, ac mae pa mor aml y cyhoeddir yr adroddiadau yn galluogi practisau i olrhain newidiadau yn rheolaidd. Yn ogystal, mae'r tîm rheoli meddyginiaethau'n trafod gwaith anadlyddion 'gwyrdd' mewn cyfarfodydd practis, ac yn cefnogi practisau i dargedu cleifion i newid drwy greu chwiliadau cleifion ar gyfer y rheini ar sawl math gwahanol o ddyfais anadlu. Mae’r dangosydd hefyd wedi’i gynnwys fel opsiwn o fewn cynllun cymhelliant rhagnodi’r bwrdd iechyd.

BIP Caerdydd a'r Fro Ch4 Mawrth 2023

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro wedi rhoi ystod o gamau ar waith i annog y defnydd o anadlyddion Potensial Cynhesu Byd-eang (GWP) is pan fo’n briodol i gleifion.

Ym mis Medi 2021, gweithredodd y Tîm Rheoli Meddyginiaethau negeseuon ar ScriptSwitch (meddalwedd cymorth penderfyniadau rhagnodi) gan annog rhagnodwyr i ddewis opsiynau DPI ac SMI yn lle MDIs lle bo modd. Diweddarwyd y negeseuon yn unol â negeseuon Cymru Gyfan a ddarparwyd gan AWTTC yn 2022.

Fel rhan o Gynllun Cymhelliant Rheoli Meddyginiaethau 2022-23, gwnaeth practisau meddygon teulu adolygu cleifion â COPD a oedd  â dau anadlydd triniaeth ar bresgripsiwn ar hyn o bryd, y gellid eu hoptimeiddio i un anadlydd cyfunol. Gofynnwyd iddynt ddewis anadlydd cyfunol DPI lle bo'n briodol. Gofynnwyd hefyd i bractisau adrodd ar 5 ymyriad gwahanol a wnaed i leihau ôl troed carbon triniaeth asthma.

Yn ogystal, mae’r Tîm Rheoli Meddyginiaethau wedi cynnal sesiynau addysg ar gyfer timau practisau meddygon teulu i dynnu sylw at yr agenda datgarboneiddio, gan gynnwys ffyrdd y gellir lleihau’r broses o ragnodi MDIs.

 

BIP Aneurin Bevan Ch4 Mawrth 2023

Mae fferyllwyr practis Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn bennaf wedi cynnal adolygiadau DOAC a gwrthgeulyddion o fewn y bwrdd iechyd. Pan nodir cleifion ar DOAC ac NSAID drwy’r geg, mae'r NSAID yn cael ei atal lle bo'n briodol.

BIP Hywel Dda Ch4 Mawrth 2023

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi rhannu gwybodaeth yn rheolaidd â chlystyrau am y dangosyddion rhagnodi diogel. Roedd hyn yn cynnwys graffiau unigol a ffurflen olrhain a chasglu data i gefnogi practisau gyda'u cyflwyniadau QAIF. Yn ogystal, mae gwaith wedi'i wneud yn lleol i gynyddu'r broses o ddarparu fflebotomi gofal eilaidd a gwella argaeledd poteli gwaed i ddal i fyny â monitro rheolaidd.

BIP Bae Abertawe Ch3 Rhagfyr 2022

Maes blaenoriaeth i Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yw rhagnodi a rheoli cyffuriau gwrthseicotig yn ddiogel mewn pobl 65 oed a hŷn. Mae'r bwrdd iechyd wedi ymrwymo i wella gofal cleifion wrth ragnodi cyffuriau gwrthseicotig i drin symptomau anwybyddol dementia ar gyfer y rhai sy'n byw mewn cartrefi gofal. Gan weithio ar y cyd â chartrefi gofal a’r tîm amlddisgyblaethol ehangach (MDT), mae fferyllwyr arbenigol yn chwarae rhan hanfodol wrth sicrhau’r gofal mwyaf posibl i bobl sy’n byw gyda dementia gyda phwyslais arbennig ar:

• Cynnal adolygiadau o feddyginiaeth i optimeiddio meddyginiaeth cleifion

• Addysgu staff cartrefi gofal ar ddementia gan gynnwys:

  • rhagnodi meddyginiaeth wrthseicotig yn briodol ar gyfer symptomau dementia anwybyddol
  • y risgiau sy'n gysylltiedig â defnyddio meddyginiaeth wrthseicotig ar gyfer symptomau anwybyddol dementia
  • ymyriadau anffarmacolegol

• Addysgu gweithwyr gofal iechyd proffesiynol ar y defnydd o gyffuriau gwrthseicotig ar gyfer pobl sy'n byw gyda dementia i hyrwyddo rhagnodi diogel, rheoli a dadragnodi cyffuriau gwrthseicotig.

Mae fferyllwyr o fewn y bwrdd iechyd yn rhan annatod o’r Tîm Mewngymorth Cartrefi Gofal (CHIRT), ac maent yn gweithio gyda’r tîm amlddisgyblaethol i optimeiddio cynlluniau triniaeth meddyginiaeth wrthseicotig i bobl sy’n byw mewn cartrefi gofal, a lleihau niwed i gleifion. Mae cronfa ddata wedi'i datblygu i alluogi'r tîm amlddisgyblaethol i nodi'r cleifion hyn er mwyn helpu i fonitro a gwella diogelwch cleifion. Nod y dull system gyfan hwn yw lleihau rhagnodi amhriodol a hyrwyddo diogelwch cleifion. 

 

Bydd gwybodaeth arfer da ar gyfer y dangosydd hwn yn cael ei chyflwyno yma pan fydd ar gael.

BIP Betsi Cadwaladr Ch3 Rhagfyr 2022

Mae Enghraifft o Arfer Da gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (t35) yn amlygu sut mae practisau meddygon teulu yn y bwrdd iechyd yn cael eu hannog i roi gwybod am adweithiau niweidiol i gyffuriau (ADRs) drwy’r cynllun Cerdyn Melyn.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi cynnwys adroddiadau Cerdyn Melyn ar gyfer practisau meddygon teulu yn eu gwasanaeth ychwanegol lleol (cynllun cymhelliant rhagnodi) ar gyfer 2022-2023.

Rhoddir amryw dargedau ac archwiliadau i bractisau i'w cwblhau fel rhan o'r gwasanaeth ychwanegol, ond er mwyn cael y taliad llawn, rhaid i bractisau hefyd gwblhau o leiaf un adroddiad Cerdyn Melyn fesul 1,000 o gleifion, neu ran ohono, sydd wedi'u cofrestru gyda'r practis.

Mae'r bwrdd iechyd yn annog cyflwyno adroddiadau sy'n ymwneud â chyffuriau 'triongl du', ADRs anarferol neu unrhyw adweithiau sy'n arwain at dderbyniadau i'r ysbyty, fodd bynnag gellir adrodd am unrhyw ADRS.

Drwy gynyddu cyfradd yr adroddiadau Cerdyn Melyn, bydd yr MHRA yn parhau i gael gwybodaeth werthfawr am ddiogelwch meddyginiaethau a ragnodwyd.

 

Bydd gwybodaeth arfer da ar gyfer y dangosydd hwn yn cael ei chyflwyno yma pan fydd ar gael.

BIP Cwm Taf Morgannwg Ch1 Mehefin 2023

Mae'r tîm Cymorth Rhagnodi yng Nghwm Taf Morgannwg wedi bod yn adolygu cleifion sydd wedi cael plastrau Lidocaine ar bresgripsiwn o dan SOP cymeradwy gan y Bwrdd Iechyd. Mae hyn yn golygu treialu rhoi'r gorau i driniaeth i lawer o gleifion, tra'n sicrhau bod plastrau'n cael eu rhagnodi fel y brand mwyaf cost-effeithiol ar gyfer y lleiafrif o gleifion lle bernir ei bod yn briodol i'r driniaeth barhau.

Dilynwch AWTTC: