Datblygir Dangosyddion Presgripsiynu Cenedlaethol (NPIs) yn flynyddol gyda’r nod o hyrwyddo presgripsiynu rhesymegol. Mae’r dangosyddion wedi’u seilio ar dystiolaeth a bwriedir iddynt fod yn glir, yn hawdd eu deall ac yn caniatáu i fyrddau iechyd, clystyrau gofal sylfaenol, practisau meddygon teulu a phresgripsiynwyr gymharu arfer presgripsiynu presennol yn erbyn safon ansawdd a gytunir.
Ar gyfer 2020-2021, mae’r Dangosyddion Presgripsiynu Cenedlaethol: Cefnogi Presgripsiynu Diogel wedi’i Optimeiddio wedi’u diweddaru gan ganolbwyntio ar dri maes blaenoriaeth:
- Poenleddfwyr (yn cynnwys baich Opioid, Tramadol a Gabapentin a Pregabalin)
- Gwrthgeulyddion ar gyfer ffibriliad atrïaidd
- Stiwardiaeth gwrthficrobaidd (yn cynnwys eitemau gwrthficrobaidd cyflawn a gwrthficrobyddion 4C)
Cefnogir y tri maes blaenoriaeth hefyd gan ddangosyddion ychwanegol sy’n dod o fewn categorïau diogelwch ac effeithlonrwydd:
- Diogelwch
- Dangosyddion Diogelwch Presgripsiynu
- Atalyddion pwmp proton
- Hypnoteg a lleihau gorbryder
- Cardiau Melyn
- Effeithlonrwydd
- Meddyginiaethau biolegol gwerth gorau
- Inswlin
- Gwerth isel ar gyfer presgripsiynu
Adnoddau cysylltiedig: