Neidio i'r prif gynnwy

Dangosyddion Presgripsiynu Cenedlaethol 2025-2028

Mae dangosyddion presgripsiynu cenedlaethol yn dangos sut y mae’r gwahanol fyrddau iechyd yng Nghymru yn presgripsiynu meddyginiaethau penodol, ac yn tynnu sylw at unrhyw wahaniaethau mewn patrymau presgripsiynu.

Yn ôl Sefydliad Iechyd y Byd, presgripsiynu rhesymegol yw sicrhau bod cleifion yn derbyn y meddyginiaethau cywir ar eu cyfer, y dosau cywir am yr amser cywir, ac am y gost isaf i gleifion a’u cymuned.

Datblygir dangosyddion presgripsiynu cenedlaethol i hyrwyddo presgripsiynu meddyginiaethau rhesymegol yng Nghymru. Mae’r dewis o ddangosyddion yn seiliedig ar dystiolaeth ac mae’r dangosyddion wedi’u cynllunio i fod yn glir ac yn hawdd i bresgripsiynwyr a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eu deall.

Mae’r dangosyddion yn caniatáu i fyrddau iechyd, clystyrau gofal sylfaenol, practisau meddygon teulu a presgripsiynwyr gymharu eu harfer presgripsiynu presennol yn erbyn safon ansawdd a gytunir.

Ar gyfer 2025-2028, mae’r Dangosyddion Presgripsiynu Cenedlaethol: Cefnogi Presgripsiynu Diogel wedi’i Optimeiddio yn canolbwyntio ar y meysydd blaenoriaeth canlynol:

  • Poenleddfwyr (yn cynnwys opioid, tramadol, a gabapentin a pregabalin)
  • Stiwardiaeth gwrthficrobaidd (yn cynnwys rhagnodi gwrthfacterol cyflawn a ‘gwrthficrobyddion 4C’: co-amoxiclav, cephalosporins, fluoroquinolones a clindamycin, a hyd y cwrs ar gyfer gwrthfiotigau haint y llwybr anadlol)
  • Anadlol (gan gynnwys datgarboneiddio anadlyddion ac anadlyddion beta agonist gweithredu byr)
  • Atalyddion SGLT-2 mewn cleifion â diabetes a hebddo.

Cefnogir y pedwar maes blaenoriaeth hyn gan ddangosyddion ychwanegol:

  • Diogelwch
    • Dangosyddion diogelwch presgripsiynu
    • Hypnoteg a lleihau gorbryder
    • Cardiau Melyn
  • Effeithlonrwydd
    • Meddyginiaethau biolegol gwerth gorau
    • Gwerth isel ar gyfer presgripsiynu
⇩ National Prescribing Indicators 2025-2028 3,368KB (PDF) (Saesneg yn unig)

(Cyhoeddwyd Rhagfyr 2024)

⇩ National Prescribing Indicators 2025-2028 - Supporting Information for Prescribers and Healthcare Professionals 565KB (PDF) (Saesneg yn unig)

(Cyhoeddwyd Rhagfyr 2024)

Dilynwch AWTTC: