Mae Dangosyddion Presgripsiynu Cenedlaethol (NPIs) ar gyfer 2022-2025 yn cynnwys dangosyddion ar gyfer gofal sylfaenol ac eilaidd, gyda ffocws ar y meysydd blaenoriaeth canlynol:
- Poenleddfwyr (yn cynnwys opioid, tramadol, a gabapentin a pregabalin)
- Gwrthgeulyddion ar gyfer ffibriliad atrïaidd
- Stiwardiaeth gwrthficrobaidd (yn cynnwys eitemau gwrthficrobaidd cyflawn a ‘gwrthficrobyddion 4C’: co-amoxiclav, cephalosporins, fluoroquinolones a clindamycin)
- Datgarboneiddio mewnanadlyddion
Cefnogir y pedwar maes blaenoriaeth hyn gan ddangosyddion ychwanegol:
- Diogelwch
- Dangosyddion diogelwch presgripsiynu
- Hypnoteg a lleihau gorbryder
- Cardiau Melyn
- Effeithlonrwydd
- Meddyginiaethau biolegol gwerth gorau
- Gwerth isel ar gyfer presgripsiynu
Bob chwarter blwyddyn llunnir adroddiad yn dadansoddi perfformiad pob bwrdd iechyd yn erbyn y set bresennol o NPIs.