09 Ebrill 2026
Mae ysgrifennydd hirsefydlog yn y GIG a chwaraeodd rôl allweddol y tu ôl i'r llenni wrth ddatblygu gwasanaethau clinigol yn Ysbyty Llandochau yn ymddeol ar ôl mwy na 40 mlynedd.
Mae Jan Scott, o Benarth, yn rhoi'r gorau i'w swydd ar ôl gyrfa sy'n ymestyn yn ôl i ddiwedd y 1970au.
“Rydw i wedi bod mewn cyflogaeth barhaus gyda’r GIG ers 1979, ond mewn gwirionedd dechreuais i ym 1975 am ddwy flynedd cyn i mi gael fy nhrydydd plentyn,” meddai.
Ymunodd Jan â'r ysbyty gyntaf fel nyrs gynorthwyol bediatrig, gan weithio hefyd yn yr ystafell dderbyn, a elwir bellach yn uned asesu brys meddygol.
Er ei bod hi wastad wedi bod eisiau bod yn nyrs, dechreuodd fagu teulu yn ifanc ac fe wnaeth hyn ei harwain at gymryd llwybr gwahanol at ofal iechyd.
Erbyn canol yr 1980au, symudodd i rôl ysgrifennydd meddygol - swydd a fyddai'n diffinio gweddill ei gyrfa.
“Roeddwn i wrth fy modd yn nyrs gynorthwyol,” meddai. “Ond gwelais swydd fel ysgrifennydd meddygol mewn dermatoleg, ac oherwydd fy mod wedi hyfforddi fel ysgrifennydd, gwnes gais ac roeddwn yn llwyddiannus.”
Yn ddiweddarach treuliodd wyth mlynedd yn gweithio gyda'r Athro Andrew Finlay cyn symud i ffarmacoleg glinigol yn y 1990au gyda'r Athro Phillip Routledge.
Yn ystod y cyfnod hwnnw, cefnogodd y gwaith o sefydlu'r Ganolfan Therapiwteg a Thocsicoleg, sydd bellach yn Ganolfan Therapiwteg a Thocsicoleg Cymru Gyfan.
“Roedd sefydlu’r Ganolfan Therapiwteg a Thocsicoleg wrth barhau i gefnogi meddygon ymgynghorol fel ysgrifennydd meddygol yn gyfnod prysur iawn,” meddai. “Roedd yn waith diddorol, ond yn heriol iawn — gweithio ar fy mhen fy hun i drefnu pethau.”
Gwnaed llawer o'r gwaith cyn i systemau digidol ddod yn gyffredin.
“Roedd rhaid i bopeth gael ei arddweud a’i deipio,” meddai.
Daeth swyddfa Jan yn adnabyddus hefyd am ei chyffyrddiad personol, gyda chalendrau Cliff Richard ar hyd y waliau.
“Roedd pobl yn arfer darlunio pethau arnyn nhw heb yn wybod i mi, ac aros i mi sylwi,” meddai hi.
Ochr yn ochr â threfnu cyfarfodydd, gohebiaeth ac archwiliadau, chwaraeodd ran allweddol yn y gwaith o sefydlu clinig arbenigol ar gyfer adweithiau niweidiol i gyffuriau.
“Rwy’n falch o’r rhan a chwaraeais,” meddai hi. “Dyma’r unig glinig o’i fath yng Nghymru.”
Roedd gwaith Jan yn cynnwys helpu i gydlynu derbyniadau cleifion a chefnogi'r clinig wrth iddo esblygu, gan gynnwys y newid i apwyntiadau rhithwir yn ystod pandemig COVID.
“Mae gan glinigau rhithwir fanteision, ond cyfyngiadau hefyd,” meddai. “Mae cael clinigau cleifion allanol yn ôl wedi bod yn her.”
Wrth fyfyrio ar ei gyrfa, dywedodd ei bod wedi gweld newid sylweddol yn Llandochau.
“Mae wedi tyfu a thyfu dros y blynyddoedd,” meddai Jan, ac ychwanegodd mai’r cydweithwyr y bydd hi’n eu colli fwyaf.
“Rydw i wedi ennill llawer o barch ac ymddiriedaeth dros y blynyddoedd,” meddai hi. “Byddaf yn colli pawb yn fawr.”
Am y tro, mae hi'n bwriadu cymryd pethau'n araf yn ei hymddeoliad, gyda chynlluniau i deithio a dechrau bowlio yn yr haf.
Dywedodd Dr Alison Thomas, sydd wedi gweithio gyda Jan ers ymuno â Ffarmacoleg Glinigol fel cofrestrydd meddygol ym 1998: “Drwy gydol y blynyddoedd mae proffesiynoldeb, sylw i fanylion, sgiliau trefnu a chefnogaeth Jan wedi bod yn amhrisiadwy i mi ac i’r tîm Ffarmacoleg Glinigol ehangach.
“Mae hi hefyd wedi dangos caredigrwydd mawr i’n cleifion ac maen nhw wedi mynegi pa mor ddiolchgar ydyn nhw am ei chymorth.
“Mae Jan hefyd wedi bod yn gyfaill dibynadwy, ac yn ffrind gwirioneddol a bydd ein tîm meddygon ymgynghorol yn ei cholli’n fawr. Dymunwn ymddeoliad hir, hapus ac iach i ti Jan.”