Neidio i'r prif gynnwy

Ymgynghoriad ar y Strategaeth Cyfathrebu ac Ymgysylltu

Datblygwyd y Strategaeth Cyfathrebu ac Ymgysylltu trosfwaol i gyd-fynd â dull cyfathrebu AWMSG ac AWTTC a chefnogi cyflwyniad Rhaglen Waith AWTTC.

Mae’r Strategaeth Cyfathrebu ac Ymgysylltu yn cwmpasu cynulleidfa amrywiol sy’n cynnwys y diwydiant fferyllol, gweithwyr iechyd proffesiynol, cleifion a’r cyhoedd. Bydd y dull a amlinellir yn y strategaeth yn defnyddio nifer o wahanol sianeli gan gynnwys cyfryngau cymdeithasol wedi’u targedu, cysylltiadau cyhoeddus adweithiol a rhagweithiol ac ymgysylltu â rhanddeiliaid.

Fel rhan allweddol o lwyddiant y strategaeth hon bydd AWTTC yn creu deialog agored gyda phartneriaid ac, fel rhan o gam nesaf y strategaeth, fe fydd yna gyfnod o ymgynghori. Rydym yn gwahodd sylwadau ac awgrymiadau gan bartneriaid a rhanddeiliaid ynglŷn â’r Strategaeth Cyfathrebu ac Ymgysylltu.

Ffocws y ddogfen hon yw amlinellu dull strategol ar gyfer cyfathrebu a byddem yn ddiolchgar am eich sylw(adau) er mwyn gwneud yn siŵr bod AWMSG ac AWTTC yn parhau i fod yn berthnasol ac yn ymatebol i anghenion y gwasanaeth.

Sylwch: Daeth yr ymgynghoriad i ben Ddydd Iau, 10 Mehefin 2021.

Dogfennau
Strategaeth Cyfathrebu ac Ymgysylltu 2021 [Cymraeg / Saesneg]
Dilynwch AWTTC: