Neidio i'r prif gynnwy

Sut mae AWTTC yn cefnogi diogelwch cleifion?

Mae Canolfan Therapiwteg a Thocsicoleg Cymru Gyfan (AWTTC), sef cangen cymorth proffesiynol Grŵp Strategaeth Meddyginiaethau Cymru Gyfan (AWMSG), yn hyrwyddo defnydd diogel ac effeithiol o feddyginiaethau, drwy gefnogi’r gwaith o ddatblygu a gweithredu canllawiau arfer gorau a Dangosyddion Presgripsiynu Cenedlaethol sy’n gysylltiedig â hyrwyddo diogelwch meddyginiaethau. 

Yn ogystal, drwy waith Canolfan Cerdyn Melyn Cymru, mae AWTTC yn annog pobl i roi gwybod am adweithiau niweidiol a amheuir i feddyginiaethau ar draws Cymru gan ddefnyddio’r Cynllun Cerdyn Melyn.  Ers llawer o flynyddoedd, Cymru sydd wedi bod â’r gyfradd uchaf o adroddiadau o blith y pedair gwlad yn y DU, ac mae wedi datblygu rhwydwaith o Hyrwyddwyr Cerdyn Melyn ar draws y GIG yng Nghymru. Mae Uned Gwenwynau Cenedlaethol Cymru yn rhoi cyngor i weithwyr gofal iechyd proffesiynol yn y DU ac Iwerddon, ar reoli ac atal gwenwyno o safbwynt meddyginiaethau a chemegau.  Mae Ffarmacolegwyr AWTTC yn darparu gwasanaethau clinigol i gleifion allanol mewn perthynas â nodi, rheoli ac atal adweithiau niweidiol i gyffuriau. 

Mae AWTTC yn gweithredu fel ffocws ar gyfer addysg a hyfforddiant mewn diogelwch meddyginiaethau ar gyfer y maes fferylliaeth, meddygol a phroffesiynau sy’n gysylltiedig â meddygaeth mewn ysgolion meddygol a fferyllol yng Nghymru.  Darperir cyfleoedd mentora a hyfforddi i fyfyrwyr ar ddiogelwch cleifion a gwella ansawdd, er mwyn ymgorffori egwyddorion diogelwch meddyginiaethau a datblygu diwylliant diogelwch cadarn yn y cwricwlwm hyfforddiant i israddedigion o safbwynt gweithwyr gofal iechyd proffesiynol y dyfodol.  Mae AWTTC hefyd yn hyrwyddo cydweithredu rhwng ymchwil a datblygu, gan gynnwys dulliau amlbroffesiynol i sicrhau bod cleifion yn cael y canlyniadau a’r profiadau gorau o safbwynt eu meddyginiaethau.  Mae AWTTC yn cynnwys cleifion a’r cyhoedd yn ei waith ac yn cynnal fforymau i ymgysylltu â’r bobl yng Nghymru a’u hannog i gyfrannu at benderfyniadau ynghylch meddyginiaethau a phresgripsiynu.

Cafodd Dangosfwrdd Diogelwch Meddyginiaethau Cymru Gyfan ei ddatblygu gan AWTTC i gefnogi Her Diogelwch Cleifion Byd-eang Sefydliad Iechyd y Byd i gael gwared ar niwed y gellir ei osgoi o fewn gofal iechyd. Mae’r dangosfwrdd yn cyfuno Dangosyddion Diogelwch Meddyginiaethau o ddata Archwilio+ a derbyniadau i ysbytai (PEDW), gan ganolbwyntio ar dri chategori niwed, sef cwympiadau, gwaedu ac Anafiadau Acíwt i’r Arennau yn ôl Bwrdd Iechyd a Chlwstwr Meddyg Teulu.

Dilynwch AWTTC: