Neidio i'r prif gynnwy

Cynhadledd Wyddonol Flynyddol y Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys 2024

Llongyfarchiadau i Gill a Laurence o uned Gwasanaeth Gwybodaeth Cenedlaethol am Wenwynau (NPIS) Caerdydd a gyflwynodd grynodeb o boster yng Nghynhadledd Wyddonol Flynyddol y Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys, Gateshead ym mis Hydref 2024.

Teitl y crynodeb oedd “A yw sodiwm azid yn bryder iechyd y cyhoedd posibl sy’n dod i’r amlwg yn y Deyrnas Unedig?”

Crynodeb:

Nodau ac Amcanion Adrodd ar ymholiadau sy'n ymwneud â sodiwm azid a dderbyniwyd gan UK-NPIS gyda'r bwriad o werthuso eu natur, amlder a difrifoldeb. Mae pryder wedi bod am y defnydd o'r cemegyn hwn ar gyfer hunan-niweidio bwriadol. Ceisiodd yr astudiaeth hon archwilio a oedd sodiwm azid yn broblem iechyd y cyhoedd sylweddol yn y DU.

Dull a Dyluniad Cynhaliwyd astudiaeth arsylwadol ôl-weithredol o ymholiadau ffôn i'r NPIS a dderbyniwyd rhwng 1-Ionawr, 2008 a 31-Mai, 2024. Cafodd ymholiadau yn ymwneud â sodiwm azid eu dethol a’u harchwilio am ddata ynghylch bwriad yr amlygiad, natur yr amlygiad, symptomau a chanlyniadau.

Canlyniadau a Chasgliadau Derbyniodd UK-NPIS 757,737 o ymholiadau yn ystod yr astudiaeth. Mae cant a phump ar hugain o ymholiadau yn ymwneud ag amlygiad posibl i sodiwm azid wedi'u crynhoi yn nhabl 1.

Tabl 1

Disgrifiad o ymholiadau sodiwm azid i'r NPIS

Cyfanswm yr ymholiadau = 125

Hunan-niweidio bwriadol a amheuwyd

21

Achosion

10

   

Blwyddyn

2009=1, 2011=2, 2012=1, 2014 =1, 2017=1, 2019=1, 2020=1, 2024=2

   

Blynyddoedd oedran (ystod; cymedr)

23-59; 34.6

   

Rhywedd

Gwryw 5, Benyw 4, Anhysbys 1

   

Llwybr amlygiad

Llyncu 10, Anadlu 1, Anhysbys 1

Gwybodaeth yn unig

31

Rheswm dros yr ymholiad:

 
   

Cyngor PPE/dadheintio

26

   

Cyngor ar brotocol marwdy

2

   

Adrodd i iechyd y cyhoedd

3

Damweiniol

73

Achosion

82

   

Blynyddoedd oedran (ystod; cymedr)

1–89; 31

   

Rhywedd

Gwryw 31, Benyw 30, Anhysbys 21

   

Llwybr amlygiad

Anadlu 27, Llyncu 20, Cyswllt croen/llygad 23, Llwybrau lluosog 7, Arall/anhysbys 5

   

Lleoliad

Cartref 33, Gwaith 26, Man cyhoeddus 15, arall/anhysbys 8

   

Rheswm

Prawf Covid/pecyn sampl 35, Digwyddiad labordy 22, Bag Aer 5, Arall 11, Anhysbys 9

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Mewn ymholiadau DSH, nodwyd mai'r dos a adroddwyd (n=6) oedd 30 mL o 30%, 5-10g, 10g, 1 llwy, 1 llwy de neu 2 'becyn.' Adroddwyd mai labordy oedd y ffynhonnell gemegol mewn 5 achos, y rhyngrwyd mewn 1 (blwyddyn = 2020), ac anhysbys mewn 4 achos.

Roedd y symptomau'n anhysbys mewn 4 achos, gydag 1 yn asymptomatig. Roedd y symptomau a adroddwyd yn cynnwys poen GI (4), syrthni (3), isbwysedd (3), asidosis lactig (3) tachycardia (2) a gweithrediad annormal yr afu (2).

Roedd canlyniadau'n hysbys mewn 4 achos DSH; 2 adferiad llwyr a 2 farwolaeth (2011 a 2024). Ymhlith y 31 o ymholiadau PPE/protocol marwdy, nodwyd 5 marwolaeth ychwanegol (2013, 2017, 2018 2019, 2020).

Casgliad: Mae ymholiadau sodiwm azid yn cyfrif am gyfran fach o gyfanswm ymholiadau UK-NPIS, ac nid yw data cyfredol yn nodi ei fod yn duedd sy'n dod i'r amlwg fel dull o hunanladdiad. Fodd bynnag, disgrifir saith marwolaeth yn y data hwn. Mae marwolaeth yn aml yn digwydd cyn bod ymyrraeth feddygol ar gael. Bydd gwaith yn y dyfodol yn edrych ar ddata ONS i nodi unrhyw feysydd sy'n peri pryder ac a oes angen gweithredu ehangach ym maes iechyd y cyhoedd.

Gellir cyrchu'r crynodeb yma -> https://doi.org/10.1136/emermed-2024-RCEM.18

Dilynwch AWTTC: