30 Ionawr 2026
Mae Canolfan Therapiwteg a Thocsicoleg Cymru Gyfan (AWTTC) yn falch o gyhoeddi bod rhestr bwrpasol o ffurflenni Blueteq sydd ar gael i'w defnyddio ar draws GIG Cymru bellach yn fyw ar wefan AWTTC. Mae hyn yn nodi cam pwysig wrth gefnogi byrddau iechyd, ymddiriedolaethau a chlinigwyr i weithredu system Cyffuriau Cost Uchel (HCD) Blueteq.
Mae system HCD Blueteq yn chwarae rhan hanfodol i sicrhau bod cleifion yn derbyn triniaethau priodol, sy'n seiliedig ar dystiolaeth, wrth helpu'r GIG yng Nghymru i reoli'r cymhlethdodau cynyddol sy'n gysylltiedig â dulliau rhagnodi cost uchel. Mae'r system yn darparu un broses safonol ar gyfer cofnodi a chymeradwyo triniaethau, gyda phob ffurflen yn amlinellu meini prawf cymhwysedd ar gyfer meddyginiaethau penodol. Mae llyfrgell o ffurflenni unigryw yn cael ei datblygu gyda mewnbwn gan glinigwyr ledled Cymru, gan sicrhau eu bod yn parhau i fod yn ymarferol, yn reddfol, ac yn cyd-fynd â chanllawiau cenedlaethol.
Bydd y rhestr newydd o ffurflenni Blueteq yn cael ei diweddaru'n gyson wrth i ffurflenni ychwanegol gael eu cymeradwyo a'u gwneud ar gael. Mae hyn yn sicrhau bod gan glinigwyr a thimau byrddau iechyd/ymddiriedolaethau fynediad bob amser at ddogfennaeth ddiweddar i gefnogi arferion rhagnodi diogel, cyson ac effeithlon ledled Cymru.
Mae rhestr lawn o feddyginiaethau sydd â ffurflenni Blueteq GIG Cymru i’w gweld yma: Rhestr feddyginiaethau Blueteq GIG Cymru.
Am restr o ffurflenni sydd eu hangen ar gyfer comisiynu arbenigol, cyfeiriwch at: Blueteq - Cydbwyllgor Comisiynu GIG Cymru.