Neidio i'r prif gynnwy

Rhaglen Fuddsoddi VPAG (Cymru): Cyfle Mawr i GIG Cymru

Fel yr adroddwyd yn flaenorol, dyfarnwyd cyllid i AWTTC i gyflawni amrywiaeth o fentrau drwy'r cynllun gwirfoddol ar gyfer prisio, mynediad a thwf meddyginiaethau wedi’u brandio (VPAG).

Cytunwyd ar y cynllun gan Lywodraeth y DU a Chymdeithas Diwydiant Fferyllol Prydain (ABPI) ym mis Tachwedd 2023. Fel rhan o'r cytundeb hwn, mae'r diwydiant fferyllol yn gwneud buddsoddiad ychwanegol o £400 miliwn mewn gwyddorau bywyd dros bum mlynedd drwy Raglen Fuddsoddi VPAG, a fydd yn cyflymu gwaith ar dreialon clinigol, gweithgynhyrchu ac asesu technoleg iechyd (HTA).

Nod VPAG yw galluogi cleifion i gael mynediad at y triniaethau arloesol diweddaraf, cryfhau safle'r DU mewn arloesedd gofal iechyd byd-eang ac ymchwil glinigol, ac yn y pen draw sicrhau canlyniadau iechyd gwell ar draws y boblogaeth. 

Yn unol â'r dyfarniad cyllido, mae AWTTC wedi sefydlu pedwar prosiect craidd: 

•              Sganio'r Gorwel a Rhagolygon Ariannol 

•              Ecosystem Meddyginiaethau (asesiad meddyginiaethau) 

•              Gweithredu (cefnogi'r defnydd o feddyginiaethau a aseswyd) 

•              Datgloi Data (gwella mynediad, ansawdd a chysylltu data iechyd) 

Yn ogystal â rheolwr rhaglen, mae amrywiaeth o swyddi tymor penodol wedi cael eu recriwtio i gefnogi’r gwaith o gyflawni amcanion y rhaglen, fel y nodir isod, gyda dechreuwyr newydd yn cynefino ar hyn o bryd.    

  • 2 X Dadansoddwr Technoleg Iechyd  
  • 2 X Dadansoddwr Technoleg Iechyd Uwch  
  • 3 X Fferyllydd  
  • 1 X Rheolwr Prosiect (Blueteq)  

Yn ei chyfnod adrodd cyntaf, bydd y rhaglen yn canolbwyntio ar gyflawni ystod o feysydd blaenoriaeth allweddol gan gynnwys cynefino, hyfforddi a sefydlu staff newydd. Cynhelir bwrdd cyntaf y rhaglen ym mis Medi lle bydd aelodau'n cymeradwyo cyflawniadau, amcanion ac amserlen y rhaglen. 

Dilynwch AWTTC: