Neidio i'r prif gynnwy

Prinder meddyginiaethau - AWTTC yn cyhoeddi adnoddau ar gyfer cleifion a gweithwyr gofal iechyd

11 Mawrth

Mae Canolfan Therapiwteg a Thocsicoleg Cymru Gyfan (AWTTC) wedi lansio tudalen we newydd sy'n darparu gwybodaeth hanfodol am brinder meddyginiaethau yng Nghymru .

Mae'r dudalen we yn cynnig ystod o adnoddau i gleifion, gofalwyr, y cyhoedd, a gweithwyr gofal iechyd. Ar gyfer gweithwyr gofal iechyd, mae'r dudalen we yn darparu dolenni i adnoddau defnyddiol ar reoli prinder meddyginiaethau yng Nghymru, gan gynnwys gwybodaeth am brotocolau prinder difrifol.

Mae'r wybodaeth sydd ar gael ar ar gyfer cleifion ar hyn o bryd yn cynnwys taflen wybodaeth i gleifion ar brinder meddyginiaethau , sy'n esbonio beth sy'n digwydd pan fydd prinder meddyginiaeth yng Nghymru.

Cymeradwyodd Grŵp Strategaeth Meddyginiaethau Cymru Gyfan (AWMSG) y daflen wybodaeth i gleifion yn eu cyfarfod ym mis Chwefror. Mae’r daflen ar gyfer pob claf, yn ogystal â’u teuluoedd a’u gofalwyr, a’r cyhoedd, ac mae ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg. Mae fersiwn hawdd ei deall hefyd wedi’i chreu mewn cydweithrediad ag Anabledd Dysgu Cymru, ac fe’i cynigir mewn fformat digidol a fformat print o ansawdd uwch.

Dilynwch AWTTC: