5 Mawrth 2024
Roedd yn bleser gennym groesawu Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, Suzanne Rankin i’n swyddfeydd i gael gwybod am y gwaith rydym yn ei wneud i gefnogi rhagnodi diogel ac effeithiol yng Nghymru.
Cynhaliwyd trafodaeth bwrdd crwn yng Nghanolfan Academaidd Routledge yn Llandochau gyda Chyfarwyddwr y Rhaglen Andy Champion, yr Uwch Reolwr Cyswllt Ruth Lang a’r Athro James Coulson lle darganfu Suzanne fwy am Ganolfan Therapiwteg a Thocsicoleg Cymru Gyfan (AWTTC) a sut rydym yn cefnogi Grŵp Strategaeth Meddyginiaethau Cymru Gyfan, pwyllgor cynghori Llywodraeth Cymru ar reoli a rhagnodi meddyginiaethau. Mae hyn yn cynnwys asesu meddyginiaethau a chydgysylltu trefniadau masnachol cysylltiedig, datblygu adnoddau optimeiddio meddyginiaethau, gwyliadwriaeth ffarmacolegol a diogelwch meddyginiaethau, dadansoddi ac adrodd ar ddata rhagnodi, sganio’r gorwel a darparu gwasanaethau gwenwyneg glinigol 24 awr.
Rhoddwyd gwybod i Suzanne hefyd am waith pwysig Canolfan Cerdyn Melyn Cymru, un o bum canolfan fonitro ranbarthol yn y DU sy’n gweithredu ar ran yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA), sy’n hyrwyddo adrodd ar adweithiau niweidiol i feddyginiaethau a brechlynnau.
Yn ystod ail ran yr ymweliad cafodd Suzanne hefyd daith o amgylch Uned Gwenwynau Cenedlaethol Cymru (WNPU) sydd wedi'i lleoli yn ysbyty Llandochau i weld gwaith y tîm o lygad y ffynnon. Mae'r WNPU yn rhan o'r Gwasanaeth Gwybodaeth Cenedlaethol am Wenwynau (NPIS) ac yn rhoi cyngor cywir i weithwyr gofal iechyd proffesiynol 24 awr y dydd 365 diwrnod y flwyddyn ar wenwyndra sylweddau a sut i reoli achosion o ddod i gysylltiad â nhw. Hwylusodd yr Athro James Coulson a Dr Laurence Gray, Ffarmacolegydd Clinigol Ymgynghorol, ganllaw ‘cerdded a siarad’ o amgylch WNPU gan gyfarfod â rhai o’r tîm sy’n darparu cyngor 24 awr y dydd ar linellau ffôn NPIS.
I ddarganfod mwy am yr ymweliad gwyliwch y fideos Rhan 1 a Rhan 2