Yn ystod mis Mawrth, aeth Bethan Hughes ac Eleri Thomas i ddiwrnod 'Gwyddoniaeth mewn Iechyd yn Fyw' yn Ysbyty Athrofaol Cymru. Dyma'r digwyddiad gwyddoniaeth mwyaf yn y DU i fyfyrwyr Lefel A. Llwyddodd myfyrwyr gael cipolwg ar wyddoniaeth feddygol a'r mathau o yrfaoedd yn maes gofal iechyd a gwyddorau biofeddygol.
Bu diddordeb mawr yng ngwaith yr NPIS, a gwahoddwyd myfyrwyr i gymryd rhan mewn arolwg i ymchwilio i brofiadau pobl ifanc o gynnwys cyfryngau cymdeithasol yn ymwneud â gorddosau a gwenwyno.
Roedd y diwrnod yn gyfle gwerthfawr i ymgysylltu â myfyrwyr brwdfrydig, codi ymwybyddiaeth o'r NPIS ac ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o wyddonwyr a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol.