Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r Llwybr Trwyddedu a Mynediad Arloesol newydd yn croesawu cynhyrchion ymchwiliol cyntaf

28 Hydref 2025

Mae'r Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA) wedi cyhoeddi ar ran Partneriaid ILAP, mai tri therapi posibl yw'r cyntaf i ymuno â chynllun newydd yn y DU a gynlluniwyd i helpu meddyginiaethau newydd addawol i gyrraedd cleifion y GIG yn gyflymach ac wedi derbyn 'Pasbortau Arloesi'. Partneriaid ILAP yw'r MHRA, y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a'r cyrff asesu technoleg iechyd (HTA) – y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE), Consortiwm Meddyginiaethau'r Alban (SMC), a Chanolfan Therapiwteg a Thocsicoleg Cymru Gyfan (AWTTC).

ILAP yw'r unig lwybr o'r dechrau i'r diwedd yn y byd lle mae datblygwyr gofal iechyd, y rheoleiddiwr, system iechyd genedlaethol y DU gyfan, a'r cyrff asesu technoleg iechyd (HTA) yn cydweithio o'r cychwyn cyntaf. Drwy roi canllawiau cynnar, cydlynol i ddatblygwyr ar ofynion diogelwch, effeithiolrwydd a gwerth ar draws y system, mae'r cynllun wedi'i gynllunio i leihau'r amser y mae'n ei gymryd i driniaethau newydd addawol symud trwy ddatblygiad, trwyddedu ac, os cânt eu cymeradwyo, i gleifion y GIG.

Mae rhagor o wybodaeth am y tri meddyginiaeth a ddyfarnwyd Pasbort Arloesi iddynt ac am ILAP ar gael o wefan yr MHRA yn www.gov.uk/government/news/the-new-innovative-licensing-and-access-pathway-welcomes-first-investigational-products

Dilynwch AWTTC: