Neidio i'r prif gynnwy

Mae dau gyhoeddiad wedi'u hychwanegu at gatalog erthyglau cyfnodolion AWTTC

18 Chwefror

Mae'r papurau newydd wedi'u hychwanegu at erthyglau ar-lein AWTTC sy'n canolbwyntio ar fynediad at feddyginiaethau, optimeiddio meddyginiaethau a diogelwch meddyginiaethau.

Fis diwethaf cyhoeddwyd y papur “Tueddiadau mewn rhagnodi meddyginiaeth gwrth-iselder trichylchol ac achosion o wenwyno yng Nghymru a Lloegr 2016–2020” gan Laurence Gray, Michael Beddard, Stephen Jones, Asiyah Begum, Paul Deslandes, James Coulson, Sally Bradberry, Euan Sandilands, Ruben Thanacoody a Matthew Ivory.

Mae’r papur yn edrych ar ddosbarthu TCA rhwng 2016 – 2020 yn ogystal ag ymholiadau gwenwyno’r Gwasanaeth Gwybodaeth Cenedlaethol am Wenwynau (NPIS), derbyniadau i’r ysbyty a marwolaethau a gofnodwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) yn ymwneud â TCAs yng Nghymru a Lloegr yn ystod cyfnod yr astudiaeth.

Gallwch ddarllen yr erthygl yma.

Cyhoeddwyd yr ail bapur “Cyfres achosion o wenwyndra ibogaine a adroddwyd i Wasanaeth Gwybodaeth Cenedlaethol am Wenwynau (NPIS) y Deyrnas Unedig dros gyfnod o 10 mlynedd” gan Ella Edwards, Laurence Gray, Muhammad Elamin, Aravindan Veiraiah a Ruben Thanacoody ym mis Ionawr hefyd.

Mae'n edrych ar 11 ymholiad yn ymwneud â saith claf, a wnaethpwyd i’r NPIS ar wenwyndra ibogaine, alcaloid seicoweithredol sy'n deillio o risgl gwraidd llwyn gorllewin Affrica Tabernanthe iboga. Er nad yw wedi'i drwyddedu yn y DU fe'i defnyddir gan unigolion i liniaru'r defnydd o gyffuriau ac alcohol.

Gallwch ddarllen yr erthygl yma.

Mae rhestr lawn o 380+ o gyhoeddiadau ymchwil AWTTC ar ein gwefan. Mae'r rhestr chwiliadwy yn caniatáu i gleifion, gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a’r diwydiant ddysgu mwy am waith AWTTC ac archwilio ein hymchwil gyhoeddedig.

Dilynwch AWTTC: