Neidio i'r prif gynnwy

AWMSG yn cyhoeddi Adroddiad Blynyddol 2024–2025 yn Amlygu Cyflawniadau Allweddol mewn Mynediad at Feddyginiaethau, Diogelwch ac Optimeiddio

5 Medi 2025

Mae Grŵp Strategaeth Meddyginiaethau Cymru Gyfan (AWMSG) wedi cyhoeddi ei adroddiad blynyddol ar gyfer 2024–2025, gan amlygu ei ymrwymiad parhaus i wella defnydd diogel ac effeithiol o feddyginiaethau yng Nghymru.

Mae'r adroddiad yn amlinellu cyflawniadau allweddol y flwyddyn, gan ganolbwyntio ar gydweithio, arloesi, a dulliau sy'n canolbwyntio ar y claf.

Yn yr adroddiad blynyddol, gallwch ddarllen mwy am yr holl brosiectau y mae AWMSG wedi bod yn gweithio arnynt drwy gydol 2024–2025.

Mae allbynnau AWMSG eleni yn cynnwys:

  • 5 o feddyginiaethau wedi’u harfarnu
  • 77 o feddyginiaethau ar y Gronfa Triniaethau Newydd
  • 8 cyhoeddiad optimeiddio meddyginiaethau wedi’u cyhoeddi
  • 14 o Ddangosyddion Presgripsiynu Cenedlaethol wedi'u monitro
  • 4 argymhelliad Cymru'n Un a 7 adolygiad Cymru'n Un

Dywedodd yr Athro Iolo Doull, Cadeirydd AWMSG: “Mae’n bleser mawr gennyf gyflwyno Adroddiad Blynyddol Grŵp Strategaeth Meddyginiaethau Cymru Gyfan (AWMSG) ar gyfer y flwyddyn adrodd hon. Mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi dod â chynnydd a her, gan danlinellu pwysigrwydd parhaus ein gwaith o gefnogi defnydd diogel, effeithiol a theg o feddyginiaethau ar draws GIG Cymru.”

Yn ogystal â rhoi trosolwg o weithgareddau AWMSG drwy gydol 2024–2025, mae'r adroddiad yn cynnwys:

  • Cynnydd ar weithredu strategaeth pum mlynedd AWMSG , gan gynnwys y diweddaraf ar flaenoriaethau strategol a chamau a gymerwyd dros y 12 mis diwethaf 
  • Enghreifftiau o gyfranogiad ystyrlon gan gleifion a'r cyhoedd , sy'n dangos sut mae profiad bywyd yn parhau i lunio gwaith a phrosesau gwneud penderfyniadau AWMSG
  • Cydnabyddiaeth o'r cyfraniadau a wneir gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol ledled Cymru, gan gynnwys eu rôl mewn ymgynghoriadau, datblygu canllawiau ac arfarnu meddyginiaethau
  • CCrynodeb o'r cydweithio parhaus â'r diwydiant fferyllol, gyda ffocws cyffredin ar wella canlyniadau cleifion a sicrhau mynediad amserol at driniaethau newydd.

Mae adroddiad blynyddol 2024–2025 wedi'i lunio gan AWTTC ac mae ar gael i'w ddarllen yn llawn yma .

Darllenwch rifynnau blaenorol o adroddiad blynyddol AWMSG .

Dilynwch AWTTC: