Neidio i'r prif gynnwy

Lansio Rhaglen Waith AWTTC 2025-2028

5 Mawrth 2026

Rydym yn falch o gyhoeddi bod ein rhaglen waith ar gyfer 2025-2028 wedi'i rhyddhau.

Mae'r rhaglen yn amlinellu ein hamcanion strategol sydd â'r nod o wella mynediad at feddyginiaethau, optimeiddio a’r defnydd o ddata yng Nghymru.

Mae’r meysydd allweddol yn cynnwys:

  • Gwella dulliau sganio’r gorwel o ran meddyginiaethau a rhagolygon ariannol.
  • Datblygiad parhaus yr ecosystem mynediad at feddyginiaethau a'n prosesau ar gyfer asesu meddyginiaethau.
  • Prosesau newydd a gwell sy'n cefnogi’r broses o roi meddyginiaethau newydd ar waith.
  • Rhannu a defnyddio data sy'n gysylltiedig â meddyginiaethau yn well.
  • Datblygiad parhaus adnoddau optimeiddio meddyginiaethau o ansawdd uchel.
  • Asesiad economaidd iechyd gwell i gefnogi holl allbynnau AWTTC.

Mae'r rhaglen yn dangos sut y byddwn yn cefnogi mynediad amserol at feddyginiaethau, yn darparu canllawiau rhagnodi ac adnoddau i hyrwyddo optimeiddio meddyginiaethau, ac yn cryfhau'r defnydd o ddata i wella canlyniadau i gleifion ledled Cymru.

Darllenwch y rhaglen waith yma Rhaglen Waith AWTTC 2025-2028 - Canolfan Therapiwteg a Thocsicoleg Cymru Gyfan

 

 

Dilynwch AWTTC: