29 Ebrill 2025
Mae Grŵp Cynllun Trefniadau Masnachol Cymru (CASWG) newydd wedi'i sefydlu i gefnogi gweithredu meddyginiaethau a argymhellir gan AWMSG a NICE sy'n gysylltiedig â threfniant masnachol.
Mae'r Tîm Mynediad at Feddyginiaethau Masnachol (CMAT) yn dîm aml-sefydliadol cydweithredol sy'n cynnwys cydweithwyr o AWTTC, Partneriaeth Gwasanaethau a Rennir GIG Cymru (NWSSP) ac Uned Gwerth Meddyginiaethau. Rôl a chyfrifoldeb CMAT yw cefnogi a monitro gweithrediad meddyginiaethau a argymhellir gan AWMSG a NICE sy'n gysylltiedig â threfniant masnachol o fewn GIG Cymru. Mae trefniant masnachol yn gwella cost-effeithiolrwydd meddyginiaeth; gall fod yn Gynllun Mynediad i Gleifion (PAS) neu'n Gytundeb Mynediad Masnachol (CAA). Mae hyn yn sail i hanfod Cymru Iachach , gan ganiatáu i gleifion gael mynediad amserol at feddyginiaethau, tra hefyd yn sicrhau bod y GIG yng Nghymru yn cael y gwerth mwyaf posibl am arian o ran meddyginiaethau.
Mae CMAT yn prosesu nifer gynyddol o drefniadau masnachol a chyda chynnydd yn nifer y CAAs cymhleth sy'n dod i Gymru, mae'r broses o reoli, monitro ac adfer ad-daliadau ar gyfer GIG Cymru wedi dod yn llawer mwy heriol. I gefnogi'r gwaith hwn, mae AWTTC wedi sefydlu Grŵp Cynllun Trefniadau Masnachol Cymru (CASWG), is-bwyllgor AWMSG a fydd yn darparu mwy o gyfranogiad rhanddeiliaid, tryloywder a llywodraethu i gymeradwyo trefniadau masnachol ar ran GIG Cymru.
Mae rhagor o wybodaeth am rôl CASWG gan gynnwys ei gyfansoddiad ar gael o dudalen we Ein pwyllgorau .