03/12/2024
Fel rhan o ymdrech gydweithredol y Tasglu Sodiwm Falproad a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru, rydym yn falch o gyhoeddi bod hyb gwybodaeth sy'n canolbwyntio ar 'Y defnydd o sodiwm falproad gan fenywod a merched' bellach ar gael:
Mewn ymateb i ddiweddariadau gan yr MHRA ynghylch y defnydd diogel o sodiwm falproad gan fenywod a merched, mae'r hyb hwn yn cynnwys ystod o wybodaeth ddefnyddiol am y canlynol:
- Y risgiau sy'n gysylltiedig â chymryd falproad.
- Sut mae'r Tasglu Sodiwm Falproad yn argymell y gellir gwella’r broses o ragnodi falproad yn ddiogel.
- Data cyfredol ar nifer y menywod a'r merched y ragnodir falproad iddynt yng Nghymru.
- Adnoddau i gefnogi gweithwyr gofal iechyd proffesiynol i ragnodi falproad yn ddiogel.
- Pwysigrwydd gwneud penderfyniadau ar y cyd wrth drafod unrhyw newidiadau rhagnodi gyda chlaf.
- Adnoddau sydd ar gael ar hyn o bryd i gleifion i'w helpu i ddeall risgiau cymryd falproad.
- Taflen cymorth penderfyniadau cleifion ddwyieithog, newydd a ddatblygwyd gan Brifysgol Metropolitan Caerdydd y gellir ei defnyddio gan fenywod a merched ag epilepsi a'u clinigwyr i gefnogi dull gwneud penderfyniadau ar y cyd ynghylch defnyddio falproad.
- Sut y gall gweithwyr gofal iechyd proffesiynol nawr gwblhau fersiwn ddigidol o'r ffurflen cydnabod risg flynyddol ar gyfer cleifion benywaidd (ARAF), fel y gellir ei chyrchu trwy Borth Clinigol Cymru.
- Defnydd o sodiwm falproad ymhlith dynion.
Mae AWTTC yn eich gwahodd i archwilio'r hyb, defnyddio'r wybodaeth a ddarperir, ac os oes gennych adborth neu gwestiynau, cysylltwch â ni awttc@wales.nhs.uk.