Neidio i'r prif gynnwy

Hyfforddiant Tocsicoleg Glinigol ar gyfer GIG 111 a gwasanaethau ambiwlans yng Nghymru

Chwefror 28

Ym mis Ionawr, mynychodd dau o’n Arbenigwyr mewn Gwybodaeth Gwenwynau Stephen Jones a Bethan Hughes swyddfeydd Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yng Nghwmbrân, i ddarparu diwrnod llawn o hyfforddiant tocsicoleg i GIG 111 Cymru ac Addysgwyr Ymarfer Gwasanaethau Ambiwlans Cymru.

Nod yr hyfforddiant oedd helpu i gryfhau'r rhaglen addysg a hyfforddiant sydd eisoes yn ei le gan GIG 111 Cymru a Gwasanaeth Ambiwlans Cymru ac yn y pen draw wella gwybodaeth am brysbennu a rheoli ymholiadau gwenwyno gan y cyhoedd.

Roedd y sesiynau yn canolbwyntio ar ddefnyddio a dehongli TOXBASE®; cronfa ddata tocsicoleg glinigol y NPIS fel adnodd ar gyfer delio ag achosion gwenwyno. Rhoddwyd canllawiau pellach ar ddelio â gwenwynau cyffredin fel gwenwyno gyda meddyginiaethau, gan gynnwys gwenwyn parasetamol a meddyginiaeth cardiaidd, amlygiad i gemegau cartref a chreu astudiaethau achos ar gyfer hyfforddi.

Cafodd yr holl sesiynau eu derbyn yn dda iawn gydag adborth gwych ac annog trafodaethau ardderchog ymhlith y grŵp! Mae NPIS Caerdydd yn gobeithio darparu mwy o hyfforddiant tocsicoleg glinigol i weithwyr gofal iechyd proffesiynol sy'n rheoli achosion o wenwyno, am ragor o wybodaeth cysylltwch â Poisons.Information@wales.nhs.uk.

Dilynwch AWTTC: