Mehefin 27
Llwyddodd Fframwaith a Chynllun Gwobrwyo Gofal Sylfaenol Gwyrddach Cymru i ennill gwobr 'Cymru Iachach' yng Ngwobrau Cynaladwyedd cenedlaethol cyntaf GIG Cymru a gynhaliwyd ddydd Iau 13 Mehefin 2024.
Daeth dros 80 o geisiadau am y gwobrau i law gan brosiectau o bob bwrdd ac ymddiriedolaeth iechyd yng Nghymru, yn canolbwyntio ar hyrwyddo gofal iechyd cynaliadwy ac yn cefnogi’r broses o ymgorffori arferion cynaliadwy mewn gofal clinigol.
Roedd y tîm wrth eu bodd gyda’r fuddugoliaeth a hoffent ddiolch i bawb sydd wedi cefnogi’r gwaith, gan gynnwys y practisau gofal cychwynnol sydd wedi cymryd rhan yn y Cynllun dros y tair blynedd diwethaf.
Meddai Sian Evans, Ymgynghorydd Iechyd Cyhoeddus yr Is-adran Gofal Sylfaenol: “Roeddem yn gyffrous iawn i dderbyn y wobr a chael cydnabyddiaeth i waith y contractwyr gofal sylfaenol sy’n gweithio gyda ni mewn digwyddiad mor fawreddog.
“Er bod Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi arwain y gwaith hwn, mae datblygiad y Cynllun wedi bod yn bosibl trwy gyd-gynhyrchu, cydweithio a chefnogaeth ein rhanddeiliaid a phartneriaid megis AWTTC.
“Rydym yn edrych ymlaen at adeiladu ar lwyddiant y Cynllun trwy 2024 ac i’r dyfodol.”
Nid yw’n rhy hwyr i unrhyw un fod yn rhan o’r Cynllun ar gyfer 2024, gallwch gofrestru yma.
I gael gwybodaeth bellach ewch i Gofal Sylfaenol Gwyrddach Cymru neu gallwch gysylltu drwy e-bostio greenerprimarycare@wales.nhs.uk.