21 Mawrth 2025
Dychwelodd Canolfan Cerdyn Melyn Cymru i Brifysgolion Abertawe a Chaerdydd yn ddiweddar i gyflwyno gweithdai rhyngweithiol gyda myfyrwyr fferylliaeth, gan ganolbwyntio ar adweithiau niweidiol i gyffuriau (ADRs) a phwysigrwydd adrodd trwy Gynllun y Cerdyn Melyn.
Dechreuodd y sesiynau gyda darlith addysgiadol, a ddilynwyd gan weithdy ymarferol lle bu myfyrwyr yn trafod astudiaethau achos i nodi meddyginiaethau amheus ac asesu a ddylid adrodd ar yr adweithiau trwy'r Cynllun Cerdyn Melyn.
Cymerodd dros 100 o fyfyrwyr ran, a gwnaeth eu brwdfrydedd a’u cwestiynau pryfoclyd ar ADRs greu argraff fawr ar dîm YCC Cymru. Edrychwn ymlaen at ddychwelyd y flwyddyn nesaf i ymgysylltu â'r garfan nesaf o fferyllwyr y dyfodol.