Neidio i'r prif gynnwy

GIG Cymru yn cymeradwyo mynediad rheolaidd i dabrafenib a trametinib i drin math prin o ganser y thyroid

3 Mai 2024

Mae Grŵp Cynghori Cymru’n Un ar Feddyginiaethau (OWMAG) wedi argymell defnyddio dabrafenib a trametinib gyda’i gilydd i drin canser thyroid anaplastig os oes ganddo amrywiolyn genetig penodol o’r enw BRAF V600E. Cymeradwyodd Grŵp Strategaeth Meddyginiaethau Cymru Gyfan y penderfyniad a chafodd ei gadarnhau gan Lywodraeth Cymru ym mis Ebrill 2024.

Mae canser thyroid anaplastig yn fath prin o ganser sy’n tyfu’n gyflym ac sy’n effeithio ar y chwarren thyroid yn y gwddf. Fel arfer caiff ei drin gyda llawdriniaeth i’w dynnu ac yna cemotherapi neu radiotherapi. Dim ond pan nad yw llawdriniaeth i dynnu’r canser yn bosibl y gellir rhoi dabrafenib a trametinib i drin canser thyroid anaplastig.

Bydd pob claf sydd wedi cofrestru gyda phractis meddyg teulu yng Nghymru sy’n bodloni’r meini prawf ar gyfer triniaeth yn cael y dewis o gymryd dabrafenib a trametinib, hyd yn oed os oes angen iddynt gael eu triniaeth y tu allan i Gymru. Nid yw dabrafenib a trametinib wedi’u trwyddedu i drin canser thyroid anaplastig, felly gelwir eu defnyddio yn y modd hwn yn ddefnydd “all-drwydded”.

Penderfyniad dros dro yw hwn a chaiff ei adolygu ar ôl 12 mis, gan ganiatáu i OWMAG ystyried unrhyw dystiolaeth newydd, tymor hwy.

Dilynwch AWTTC: